Undeb Celtaidd
Mae'r Undeb Celtaidd yn fudiad gwleidyddol sydd yn cefnogi ac yn lledaenu gwybodaeth am ymgyrchoedd mudiadau cenedlaethol a mudiadau iaith y chwe gwlad Geltaidd sef Cymru, Yr Alban, Llydaw, Iwerddon, Cernyw, a Manaw. Fe'i sefydlwyd ym 1961, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog. Mae'r Undeb yn cyhoeddi'r cylchgrawn chwarterol 'Carn'.
Ni ddylid drysu rhwng yr Undeb Celtaidd, a'r Gyngres Geltaidd, sydd yn fudiad diwylliannol, na'r Cynghrair Celtaidd, sydd yn gystadleuaeth rygbi.
Canghennau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae cangen ym mhob un o'r chwe gwlad Geltaidd, a hefyd canghennau yn UDA, yn Lloegr/Llundain, ac mae cangen ryngwladol. Yn Saesneg, mae'n arfer defnyddio enwau'r gwledydd yn yr ieithoedd Celtaidd wrth gyfeirio at y canghennau cenedlaethol.
Ysgrifenyddion Cyffredinol yr Undeb Celtiadd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Alan Heusaff†: (1961-84), B→É
- J. Bernard Moffat: (1984-88), M
- Davyth Fear: (1988-90), K→C
- Séamas Ó Coileáin†: (1990-91), É
- J. Bernard Moffat: (1991-2006), M
- Rhisiart Tal-e-bot: (2006 - pres.), C→K
Golygyddion Carn (Sefydlwyd 1973)[golygu | golygu cod y dudalen]
- Frang MacThòmais: (1973-74), A
- Padraig Ó Snodaigh: (1974-77), É
- Cathal Ó Luain: (1977-81), É
- Pedyr Pryor: (1981-84), K
- Pat Bridson: (1984 - pres.), M→É
(Mae'r llythrennau ar ôl y dyddiadau yn dangos eu cenhedloedd - mae → yn dangos yr rhai oedd wedi mynd i fyw i wlad Geltaidd arall.)
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan yr Undeb Celtaidd Archifwyd 2006-06-15 yn y Peiriant Wayback.
- Undeb Celtaidd, Cangen America
- Undeb Celtaidd, Cangen Ryngwladol Archifwyd 2005-04-18 yn y Peiriant Wayback.
- Undeb Celtaidd, Cangen yr Alban Archifwyd 2008-05-19 yn y Peiriant Wayback.