Y Gyngres Geltaidd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1917 |
Sefydlwyd Y Gyngres Geltaidd (Llydaweg: Ar C'hendalc'h Keltiek, Cernyweg: An Guntelles Keltek, Manaweg: Yn Cohaglym Celtiagh, Gaeleg: A' Chòmhdhail Cheilteach, Gwyddeleg: An Chomhdháil Cheilteach, Saesneg: The International Celtic Congress) yn 1902, ond ni chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf tan 1917, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ei nod yw hyrwyddo gwybodaeth, defnydd a gwerthfawrogiad o ieithoedd a diwylliant y chwe gwlad Geltaidd, sef yr Alban, Llydaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw ac Ynys Manaw. Mae cangen genedlaethol ym mhob un o'r chwe gwlad yma.
Yn wahanol i'r Undeb Celtaidd, mae'r Gyngres Geltaidd yn anwleidyddol. Cynhelir cynhadledd flynyddol, ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd yn eu tro.
Mae'n enghraifft o fudiad Pan-Geltaidd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Gyngres Geltaidd yn 1917 gan Edward Thomas John (a adnabwyd hefyd fel E.T. John), cenedlaetholwr Cymreig a fu’n AS dros Ddwyrain Sir Ddinbych o 1910 hyd 1918 ac yn noddwr Deddf Senedd i Gymru yn 1914. Cafodd ei ysgogi’n rhannol gan y ddelfryd o adfywio gwaith y Gymdeithas Geltaidd gynharach a’i Chyngresau Pan-Geltaidd blynyddol, ond dylanwadwyd arno hefyd gan ganlyniadau cymdeithasol a diwylliannol y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliodd y Gyngres Geltaidd newydd ei chyfarfod cyntaf yn 1917 yn Eisteddfod Penbedw.[1] Cynhaliwyd y Gyngres yng Nghaeredin yn 1920, ac yn 1921 ar Ynys Manaw. Ym 1925 cynhaliwyd y Gyngres yn Nulyn, ac un o'r siaradwyr oedd Douglas Hyde. Ffigur amlwg oedd Agnes O'Farrelly, a oedd hefyd yn rhan o Conradh na Gaeilge ac a fu am gyfnod yn aelod o Cumann na nBan (mudiad parafilwrol merched gweriniaethol Gwyddelig). Chwaraeodd ran fawr yn y sefydliad ar ôl marwolaeth John ym 1931.
Ym 1935, Caerdydd oedd y lleoliad, a darlledodd Rhanbarth Gorllewinol y BBC y trafodion (roedd Cymru wedi ei chynnwys fel rhan o ranbarth gorllewin Lloegr hyd nes i ymgyrch gan genedlaetholwyr fel Saunders Lewis, Plaid Cymru ac aelodau'r Cylch Dewi cynnar newid hynny). Cynhaliwyd Cyngres 1938 ar Ynys Manaw mewn gwahanol neuaddau, fel bod y mynychwyr yn cael dewis o ddarlithoedd, dadleuon a thrafodaethau.[1] Roedd y cyfarfodydd yn afreolaidd cyn yr Ail Ryfel Byd er yn y 1920au, ceisiodd Plaid Genedlaethol yr Alban (rhagflaenydd Plaid Genedlaethol yr Alban fodern) gyfranogiad, a chydsyniodd Taoiseach Iwerddon ar y pryd, Éamon de Valera i fod yn noddwr y sefydliad yn y 1930au.
Bu bwlch o un mlynedd ar ddeg cyn y Gyngres Geltaidd ym Mangor ym mis Awst 1949, lle'r oedd y cynrychiolwyr yn cynnwys Syr Ifor Williams a Conor Maguire, Prif Ustus Iwerddon.[2] Mae cyfarfodydd wedi eu cynnal bron bob blwyddyn ers hynny. Bu Cyngres Geltaidd 1950, a gynhaliwyd yn Sefydliad Brenhinol Cernyw yn Truru, yn gatalydd ar gyfer sefydlu Mebyon Kernow y flwyddyn ganlynol.[3] Cynhaliodd cangen Cymru y cyfarfod yn Aberystwyth yn 1960.[1]
Mae pob un o'r chwe changen yn annibynnol gyda'u rhaglenni eu hunain o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. Cynhelir y Gynhadledd ym mhob un o’r chwe gwlad yn eu tro, a’r wlad sy’n cynnal y gynhadledd sy’n cael y fraint o ddewis thema’r darlithoedd am y flwyddyn honno. Mae Cyngres Geltaidd Ryngwladol yn cynnwys darlithoedd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb diwylliannol a hanesyddol, a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns.
Lleoliadau
[golygu | golygu cod]
|
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Safle we y Gyngres Geltaidd
- Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, 2021
- John, Edward T., "Address delivered at the Edinburgh Celtic Conference", 24 Mai 1920
- Cyhoeddi Gorsedh Kernow yn y Gyngress Geltaidd yn 2019 ar Youtube
- Y Gwledydd Celtaidd
Gwledydd Cenedlaetholdeb Datganoli Annibyniaeth Uno Iaith Cydweithio Gŵyl Gweler hefyd: Y Celtiaid hynafol - ↑ 1.0 1.1 1.2 "Ellis, Mari. "A short history of the Celtic Congress", Proceedings of the Aberystwyth Congress, 1983". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2015.
- ↑ The Manchester Guardian CELTIC CONGRESS AT BANGOR: First for Eleven Years; 9 August 1949
- ↑ Deacon, Bernard; Cole, Dick; Tregidga, Garry (2003). Mebyon Kernow and Cornish Nationalism. Wales: Welsh Academic Press. tt. 29. ISBN 1860570755.
- ↑ "Coronavirus Information 2020 - Celtic Congress". internationalcelticcongress.org. Cyrchwyd 2021-06-10.