Edgar Phillips

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Trefin yn Rehoboth, Rhoslanog, Sir Benfro.

Bardd Cymraeg oedd Edgar Phillips, enw barddol Trefin (8 Hydref 1889 - 30 Awst 1962). Bu'n Archdderwydd o 1960 hyd ei farwolaeth.

Magwraeth Seisnig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef ym mhentref Trefin yn Sir Benfro, yn unig blentyn William Bateman a Martha (g. Davies) Phillips ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn unarddeg oed. Morwr oedd y tad ond wedi ymddeol o'r môr gweithiodd fel pobydd ym Mhorthcawl. Collodd Trefîn ei fam yn 1898 wedi iddi dreulio 5 mlynedd yn ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin; mabwysiadwyd ef gan Mari, chwaer ei dad, a oedd yn wraig i John Martin, gwneuthurwr hwyliau, a hen forwr. Saesneg oedd iaith y cartref a Saesneg ond cadwodd ei Gymraeg -diolch i'r Ysgol Sul. Ceisiodd ddianc i'r môr pan ddeallodd fod y teulu am ei brentisio'n deiliwr. Pan ailbriododd ei dad symudodd y teulu i Gaerdydd ac aeth y bachgen yn 11 oed i ysgol Sloper Road.

Cymerodd Syr John Rowland ei athro Cymraeg, ddiddordeb ynddo a threfnu iddo gael benthyg Cymru a chyfnodolion Cymraeg eraill. Ond roedd ei dad a'i lysfam yn ceisio'i annog oddi wrth bethau Cymraeg.

Ar daith i Sir Benfro cafodd gwmni Owen Morgan Edwards ar y trên a chryfhawyd ei Gymreictod.

Teiliwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan oedd yn 14 oed dychwelodd i Drefin fel prentis teiliwr, a dechreuodd ddysgu'r gynghanedd a gweithiodd am flwyddyn yn Nhreletert a Hendy-gwyn ar Daf am flwyddyn wedi gorffen ei brentisiaeth. Yn ychwanegol at y gymdeithas o feirdd lleol, defnyddiodd Ysgol Farddol Dafydd Morganwg. Dychwelodd i Gaerdydd i arbenigo ar ‘dorri’ a datblygodd i fod yn deiliwr dillad merched. Yn 1912 symudodd i Lundain gan weithio mewn nifer o siopau dillad cyn dychwelyd i Gaerdydd fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas. Ym mis Awst 1914 agorodd fusnes teiliwr mewn partneriaeth â Trefor Roberts.[1]

Y Rhyfel Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1915 ymunodd â'r fyddin a dewisiodd y Royal Garrison Artillery a daeth yn ddiweddarach yn Bombardier, ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol. Cafodd waith dros dro gan Gwmni Seccombes yng Nghaerdydd ond dirywiodd ei iechyd a symudodd i gyffiniau'r Coed-duon yng Ngwent gan weithio mewn siop ym Margod.

Athro a barddoni[golygu | golygu cod y dudalen]

Tom Carrington yn eistedd ar 'Gadair Shanghai', a enillwyd gan Trefin yn 1933.

Yn 1921, astudiodd gwrs athro yng Nghaerllion, a bu'n athro ym Mhengam a Pontllanfraith nes ymddeol yn 1954. Yr oedd yn un o arloeswyr darlledu Cymraeg a bu ei dditectif 'Bili Bach' yn arwr i blant y cyfnod hwnnw. Yr oedd yn gystadleuydd cyson yn yr eisteddfodau ac enillodd 33 o gadeiriau a choron, Bu'n Geidwad cledd Gorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960 pan wnaed ef yn Archdderwydd. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933 am ei awdl 'Harlech', gan ennill 'Cadair Shanghai' - cadair a wnaed yn Tsieina.

Priodi[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd deirgwaith; roedd ei drydedd wraig, Dorothy Phillips, a oedd yn ddi-Gymraeg, yn awdur llyfrau taith dan yr enw Maxwell Fraser.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Trysor o gân, pedair cyfrol (1930-36)
  • Caniadau Trefîn (1950)
  • Edmund Jones, the Old Prophet (1959)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Awst 2017.