Lewis Haydn Lewis

Oddi ar Wicipedia
Lewis Haydn Lewis
Ganwyd1903 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
Bu farw1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Gweinidog ac awdur oedd Lewis Haydn Lewis (19031985). Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberaeron, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Phrifysgol Rhydychen.

Fe'i ganwyd yn Aberaeron. Ordeiniwyd ef yn weinidog ym Mhontarfynach yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1930. Yn 1935 symudodd i Eglwys Jerusalem, Ton Pentre

Bardd[golygu | golygu cod]

Roedd yn fardd yn ogystal.

Enillodd y y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog 1961 am ei gerdd, Foadur

Enillodd goron hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri, 1968 ar y testun Meini.

Ysgrifennodd hanes y dref y ganwyd ef Penodau yn Hanes Aberaeron 1970.[1]

Teulu[golygu | golygu cod]

Roedd yn dad i Richard 'Dic' Lewis, cyfarwyddwr teledu ac i Carol, bu farw yn 1958, ac yn dad-cu i Siôn Lewis.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cerddi Cyfnod (1963)
  • Cerddi Argyfwng (1966)
  • Penodau yn hanes Aberaeron (1970)
  • Meini ac Olion (1970)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pymtheg o Wyr Llên yr Ugeinfed Canrif gan D. Ben Rees Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.