Gouel Broadel ar Brezhoneg

Oddi ar Wicipedia
Gouel Broadel ar Brezhoneg
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata
Prif bwncLlydaweg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gbb.bzh Edit this on Wikidata

Gouel Broadel ar Brezhoneg (Cymraeg: Y Gŵyl Lydaweg Genedlaethol neu Gŵyl Genedlaethol y Lydaweg) yw gŵyl genedlaethol iaith Llydaweg a sefydlwyd yn yn 1974 fel Gouel ar Brezhoneg a bu am rai gyfnodau llesg. Mae'n ddathliad o gerddoriaeth gwerin a chyfoes, dawns, theatr, chwaraeon traddodiadol, cyhoeddi yn yr iaith, trafodaethau i gyd yn yr iaith Lydaweg. Cynhelir yr ŵyl bob yn ail flwyddyn yn nhref Langoned yn département Mor-Bihan.[1]

Peidio drysu â Gouel Breizh[golygu | golygu cod]

Ni ddylid drysu â Gouel Breizh (Fête de la Bretagne) sy'n ddigwyddiad a sefydlwyd yn Naoned yn 1997 dan yr enw Gouel Erwan (Fest Yves). Mae Gouel Breizh wedi ei hysbrydol ac yn ceisio efelychu elfennau o Dydd Gŵyl San Badrig neu Dydd Gŵyl Dewi a thynnu digwyddiadau, gorymdeithau a chyngherddau at ei gilydd wrth ddathlu nawddsant Llydaw a ddethlir yn hanesyddol yn Tregor yn 19 Mai.[2]

Er mai gan unigolion yn ninas Naoned y sefydlwyd Gouel Breizh ar ei newydd wedd, mae iddi gysylltiad hwy â'r ddinas ac i'r cysyniad. Ar 13 Mawrth 1932, pleidleisiodd Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw) a Ffederasiwn y Cylchoedd Celtaidd, a gyfarfu mewn cyngres gyffredin yn Naoned, o blaid trefnu "gwyl cenedlaethol Llydaw" ar 19 Mai, sef dydd gŵyl Sant Erwan. Roedd Erwan wedi ei ddyfarnu yn un o nawddseintiau Llydaw gan yr Eglwys Gatholig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Logo Skol an Emsav, mudiad addysg Llydaweg a phrif ysgogwyr a threfnwyr cynnal y Gouel ar Brezhoneg gyntaf yn 1974

Bu i'r ŵyl hanes herciog o gynnal ac addasu ond gellid gweld un llinell gyswllt rhwng yr holl addasiadau. Gouel Broadel ar Brezhoneg yw'r addasiad ddiweddaraf ar yr hyn sydd i bob pwrpas yn un ddigwyddiad i hyrwyddo'r iaith Lydaweg.

Gouel Brezhoneg[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Gouel ar Brezhoneg ('Gŵyl y Lydaweg') gan fudiad Skol an Emsav (“Ysgol y Mudiad [Llydaweg]”) fudiad diwylliannol a sefydlwyd ym 1969 gan Pol Kalvez, Youenn Olier a Tangi Louarn ar gyfer dysgu Llydaweg fel “iaith gyfathrebu fodern” [3] yn 1974 "er anrhydedd i'w siaradwyr".[4] Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn nhref Gwengamp yn 1974 adeg y Sulgwyn. Bu i'r digwyddiad gael ei chynnal yn flynyddol wedyn am ddegawd.[5] Cynhaliwyd Gouel ar Brezhoneg yn flynyddol yn: Gwengamp (1974), Kastell-Paol (1975), Pont-'n-Abad (1976), Karaez ac yn Kreiz Breizh (ardal Poc'hêr) (1977), Zinzag-Lokrist (1978), Ar Roc'h-Derrien (1979), Plabenneg (1980), Plogoñv, Pontekroaz a Douarnenez (1981), Gwengamp (1982), a Pondi (1983).[6]

Gouel Broadel ar Brezhoneg[golygu | golygu cod]

Bu i'r ŵyl parhau gyda ymgiprys mewnol deallusol dros natur y digwyddiad. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf gan yr enw Gouel Broadel ar Brezhoneg yn 1987 yn Karaez.[6] Yn y flwyddyn honno daeth meddylfryd ac aelodaeth grwpiau iaith radical SAB and Emgann i'r brig. Ar lwyfan yn 1988, cynharodd Per Denez ddirywiad yr iaith Lydaweg â thynged Americaniaid Brodorol.

Bu'r newid enw hwn hefyd yn ymgorffori newid ymhlith y grwpiau sy'n arwain y blaid: o sefydliadau lled-sefydliadol i sefydliadau â llinell fwy radical fel Stourm ar Brezhoneg (SAB), rhaniad o Skol an Emsav sy'n adnabyddus am ei dwbiau o arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg, neu Emgann, plaid wleidyddol ifanc dros annibyniaeth a chwith radical. Ym 1994, cyfarfu 10,000 o gyfranogwyr yn Speied: daeth GBB yn gyfarfod poblogaidd. Fodd bynnag, yn y flwyddyn 2000, yn dilyn gweithgaredd gwleidyddol radical, daeth yr ŵyl i ben am gyfnod. Cynhaliwyd rhwng 2004 a 2007 yn Karaez ac yna yn 2010 yn Kawan ailafaelwyd yn y digwyddiad o ddifri. Yn 2014 cymerodd corff traws-fudiadol Mignoned ar Brezhoneg, sy'n agos i Ai'ta! ('Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' Llydaweg) y awennau. Daeth naws y cyfarfod wedyn yn mynd yn llai uniongyrchol wleidyddol, yn fwy hwyliog ei nawr, gyda’r nod o gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Penderfynwyd cynnal y digwyddiad bob yn ail flwyddyn gyda'r Redadeg fel bod modd i'r ddau ddigwyddiad elwa a heb gystadlu gyda'i dilydd. [7]

Gouel Broadel ar Brezhoneg heddiw[golygu | golygu cod]

Poster Gouel Broadel ar Brezhoneg, dan enw 'Gouel Meur ar Brezhoneg' (2017)

Ail-sefydlwyd yr ŵyl ar ei newydd wedd yn 2017 ac fe'i cynhelir pob yn ail flwyddyn yn nhref Langoned. Gellir ei alw yn fersiwn Lydaweg o'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn wahanol i'r Eisteddfod mae'r digwyddiadau i gyd o fewn y dref, nid oes ymwneud chwaith gyda Gorsedd Llydaw fel sydd rhwng yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd.

Roedd gŵyl 2023 yn cynnwys 3 llwyfan, cyngherddau mawr, fest-deiz a fest-noz, An Taol-Lañs, syrcas, sinema, theatr, cynadleddau a dadleuon, chwaraeon, pentref crefftwyr, gweithgaredd digidol yn yr iaith Lydaweg, pentref cyhoeddwyr yn yr iaith Lydaweg a chysylltiadau diwylliannol, gemau plant, a gweithdai.[1]

Llwyfan An Taol-Lañ[golygu | golygu cod]

An Taol-Lañs yw’r unig lwyfan ar gyfer cerddoriaeth gyfoes yn yr iaith Lydaweg. Wedi'i greu yn 2007 gan y gymdeithas Dazont ar yezh ('Dyfodol iaith'), mae wedi'i drosglwyddo i Mignoned ar Brezhoneg yn 2017. Nawr mae'r sbringfwrdd yn agor gŵyl GBB bob 2 flynedd.

Yn 2019, rhyddhaodd Mignoned ar Brezhoneg albwm 14 cân i ddathlu ac arddangos 10 mlynedd y corff. Mae'r caneuon ar SoundCloud.[1][8]

Trafodaethau a darlithoedd[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â cherddoriaeth, dawns a diwylliant Llydaweg, ceir hefyd elfen o drafodaethau a darlithoedd. Yn 2023 bu i gynrychiolaeth o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor dan arweiniad Delyth Prys, roi sgwrs ar y rhyngrwyd a thechnoleg iaith a'r Gymraeg.[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gŵyliau iaith Celtaidd eraill[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "GBB What is it?". Gwefan Gouel Broadel Breizh. Cyrchwyd 2 Awst 2023.
  2. "Saint-Yves. 300 manifestations pour la fête de la Bretagne". Le Télégramme de Brest. 6 Mai 2010.
  3. Georges Cadiou (2013). EMSAV, Dictionnaire critique, historique et biographique - Le mouvement breton de A à Z (yn Ffrangeg). Spézet: Coop Breizh. t. 440. ISBN 978-2-84346-587-1. Cadiou2013..
  4. "GBB La Petit Histoire". Gwefan GBB. Cyrchwyd 2 Awst 2023.
  5. "Gouel broadel ar brezhoneg, le grand rendez-vous des militants bretons (VOSTFR)". Sianel Youtube Mignoned ar brezhoneg (ond rhaglen ddogfen ddarlledwyd ar France 3 Breizh yn wreiddiol). 24 Ebrill 2019.
  6. 6.0 6.1 "Gouel Broadel ar Brezhoneg (1987-1999)". Gwefan Bretagne-info.bzh. 20 Ebrill 2015.
  7. "Gouel Broadel ar Brezhoneg: celebration, struggle and transmission". BC. 2020.
  8. "An Toal-Lañ". An Toal Lañ. Cyrchwyd 2 Awst 2023.
  9. "Internet and Welsh in 2023 explained e GBB, Langonnet". TV Bro Kemperle. 20 Gorffennaf 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.