Canolfan Bedwyr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Canolfan Bedwyr
Sefydlwyd 1996
Pencadlys

Prifysgol Bangor

Pobl allweddol
Llion Jones (Prif Weithredwr)
Rhiant-gwmni
Prifysgol Bangor

Mae Canolfan Bedwyr yn ganolfan arloesol ym Mhrifysgol Bangor sy’n darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Sefydlwyd y Ganolfan yn 1996. Yn ogystal â chwarae rhan ganolog i ddatblygu a chefnogi'r Gymraeg o fewn Prifysgol Bangor, mae hefyd iddi gennad genedlaethol a rhyngwladol o ran datblygu'r iaith ym maes technoleg. Lleolir yn Ganolfan yn Neuadd Dyfrdwy sydd yn rhan o'r Ganolfan Rheolaeth y Brifysgol ar Ffordd y Coleg - ac hen safle y Coleg Normal, Bangor.[1] Cyfarwyddwr y Ganolfan y'r prifardd, Dr Llion Jones.

Cennad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwaith craidd y ganolfan yn ymwneud â chefnogi dau o nodau strategol y Brifysgol, sef, cryfhau darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol: datblygu defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol a’r rhanbarth.

Yn hynny o beth mae Canolfan Bedwyr yn ymateb i anghenion mewnol ac allanol. Er bod ei gwasanaethau craidd fel datblygu polisi, gwaith cyfieithu a darparu cyrsiau Iaith yn ymateb i anghenion y Brifysgol ei hun, mae’r ganolfan yn rhoi pwys mawr hefyd ar rannu ei harbenigeddau unigryw. Mae ei gwaith yn datblygu meddalwedd, terminoleg a chyrsiau ac adnoddau wedi’u teilwra yn uchel iawn ei barch ymhlith sefydliadau eraill sy’n awyddus i ddatblygu eu defnydd eu hunain o’r Gymraeg.

Cydanwbyddyd gwaith y Ganolfan yn hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg mewn arolwg sefydliadol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a’i wobrwyo hefyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA).

Mae'r Ganolfan yn cyflodi oddeutu 25 o staff sy'n cynnwys cyfieithwyr, datblygwyr polisi, a gweithwyr ym maes technoleg iaith.[2] gan gynnwys Tegau Andrews sy'n Derminolegydd Addysg Uwch ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Adnoddau'r Ganolfan[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Ganolfan yn gyfrifol am ddatblygu adnoddau technoleg iaith sydd ar gael i'r cyhoedd am ddim neu am bris. Yn eu mysg mae:[3]

  • Datblygu app arbennig, ap Geiriaduron, sydd wedi'i lwytho i lawr dros 71,000 o weithiau.
  • Mae'r Uned Gyfieithu yn cyfieithu yn agos at 4 miliwn o eiriau mewn blwyddyn.
  • Ategyn Vocab a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith ac welir ar wefannau fel BBC Cymru Fyw a Golwg 360. Mae'r ategyn yn dangos cyfieithiad ar-sgrin o'r Gymraeg wrth i'r lygoden orwedd ar y testun.
  • System wirio testun CySill a Cysgeir ar gyfer cywiro a gwella iaith testun ar-sgrîn.
  • Cyfieithu llwyfan addysgol byd-eang Blackboard
  • Datblygu Geiriadur yr Academi ar-lein gyda dros 90,000 o gofnodion unigol
  • Datblygu a diweddaru Porth Termau Cenedlaethol yn ddyddiol.

Bedwyr Lewis Jones[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwyd Canolfan Bedwyr ar ôl yr Athro Bedwyr Lewis Jones. Rhwng 1974-92, Bedwyr Lewis Jones oedd Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Roedd hefyd yn lladmerydd cryf dros yr iaith yn holl weithgareddau'r Brifysgol.

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol yn 1996 gan ei weddw Mrs Eleri Wynne Jones, ac yn 2010, cafodd ei gwahodd drachefn i ddadorchuddio'r penddelw o Bedwyr a gerfluniwyd gan John Meirion Morris. Mae'r penddelw i'w weld y tu allan i Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.[4]

Staff Adnabyddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymysg staff y Ganolfan mae amryw o bobl sy'n adnabyddus o fewn meysydd eraill megis Ifan Prys ('Bardd y Mis' ar BBC Radio Cymru mis Chwefror 2018 [5] ac aeloda o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon ac enillydd tair Cadair yn Eisteddfod yr Urdd[6]), Gorwel Roberts (grŵp Bob Delyn a'r Ebillion) a Gareth Siôn (grŵp Jecsyn Ffeif), Delyth Prys, enillydd Gwobr am hyrwyddo a datblygu technoleg yn gan elusennau Chwarae Teg a Womenspire yn 2018.[7]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]