John Meirion Morris
John Meirion Morris | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mawrth 1936 Llanuwchllyn |
Bu farw | 18 Medi 2020 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Gwefan | http://www.johnmeirionmorris.org/, http://www.johnmeirionmorris.org/cymraeg/ |
Cerflunydd o Gymru oedd John Meirion Morris (14 Mawrth 1936 – 18 Medi 2020).[1][2]
Ganwyd Morris yn Llanuwchllyn, ger Bala, Gwynedd lle roedd ei rieni yn berchen ar siop. Rhwng 1956 a 1960, astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl ac yna aeth ymlaen i wneud blwyddyn arall ôl-radd mewn cerflunio yn yr un coleg.[3] Gweithiodd am gyfnod fel athro celf yn Llanidloes cyn cael ei swydd ddarlithio cyntaf yn Leamington Spa. Aeth ymlaen i ddarlithio ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana ac ym Mhrifysgol Lerpwl cyn treulio rhai blynyddoedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Roedd yn gyfrifol am greu sawl penddelw yn anfarwoli rhai o ffigyrau diwylliannol amlycaf Cymru, yn cynnwys Saunders Lewis, Waldo, Dr Gwynfor Evans, Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell.
Symudodd yn ôl i Lanuwchllyn yn 1977, gan ganolbwyntio ar ei waith celf, a "bwriadu dylunio cerrig beddau am gyfnod" yn ôl ei ferch, Iola Edwards. Yn ddiweddarach aeth yn ôl i ddarlithio, ym Mhrifysgol Bangor y tro hwn, cyn ymddeol tua dechrau'r 1990au a chanolbwyntio unwaith eto ar ei waith celf.
Yn 2001, derbyniodd Wobr Glyndŵr am ei gyfraniad aruthrol i fyd y celfyddydau yng Nghymru.
Bu farw yn 84 mlwydd oedd gan adael ei wraig, Gwawr, eu merch, Iola a'u mab, Alwyn. Mae ei gerflun 'Pieta' yn cofio mab arall, Dylan, a fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2002.[2]
Arddangosfeydd
[golygu | golygu cod]- 1999 - Arddangosfa unigol yn MOMA, Machynlleth
- 2000 - Arddangosfa ‘Certain Welsh Artists’ yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
- 2004 - Arddangosfa unigryw yng Nghaplandy, Prifysgol Bangor, Y Weledigaeth Fewnol
- 2004–2007 - Arddangos maquette o ‘Gofeb Tryweryn’ yn Llysgenhadaeth Prydain, Efrog Newydd, America
- 2005 - Arddangosfa unigol yn y Oriel Royal Cambrian Academy, Conwy, Cymru
- 2009 - Arddangosfa ôl-syllol yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Cymru
- 2010 - Arddangosfa ar y cyd yn Oriel Môn, Sir Fôn
Cyhoeddiadau ac Erthyglau
[golygu | golygu cod]- Y Weledigaeth Geltaidd’ gan John Meirion Morris. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2002
- The Celtic Vision’ by John Meirion Morris. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2003.
- John Meirion Morris ‘artist’, gyda’r Athro Gwyn Thomas. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2011.
- Iwan Bala ‘Certain Welsh Artist’ – erthygl wedi'i ysgrifennu gan John Meirion Morris, called ‘Imagination and the Magic of tradition’. Seren Books, 1999.
- Patrick Hannay, ‘Touchstone’ cylchgrawn pensaeriniaeth – erthygl editorial, October, 1999.
- John Lane and Satis Kumar, ‘ Images of Earth & Spirit’ ( John Meirion Morris A Sculptor of Spirit, erthygl gan Professor Peter Abbs ), 2003.
- Peter Abbs, ‘Against the Flow’, Routledge Falmer, Llundain, 2003.
- ‘Urthona’ cylchgrawn Buddistaidd o adnewyddu diwylliannol, Celf, Barddoniaeth, Syniadau, Ymweliadau, erthygl: ‘The Inner Kingdom’ gan John Meirion Morris, Caergrawnt, Issue25, 2008.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Amdan". John Meirion Morris. Cyrchwyd 2024-02-06.
- ↑ 2.0 2.1 Teyrngedau i un o artistiaid 'mwyaf a phwysicaf' Cymru , BBC Cymru Fyw, 21 Medi 2020.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-28. Cyrchwyd 2018-11-29.