Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Porth Termau Cenedlaethol Cymru
Enghraifft o'r canlynolgeiriadur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
Yr wyddor Gymraeg

Casgliad o eiriaduron termau ar ffurf gwefan yw Porth Termau Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei datblygu gan Ganolfan Safoni Termau a phartneriaid cymeradwy eraill, ac mae wedi bod ar gael ers 1993.[1]

Gellir gweld manylion y geiriaduron termau unigol sydd wedi eu cynnwys yn y Porth Termau drwy glicio ar Y Geiriaduron Termau. Rhestrir Termau Cymru yn rhestr safonnol Llywodraeth Cymru o adnoddau i'w defnyddio wrth gyfathrebu yn y Gymraeg.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae’r Ganolfan Safoni Termau wedi gwasanaethu Cymru ers 1993 gan gynhyrchu llu o eiriaduron termau yn ystod y cyfnod hwnnw, mewn print ac mewn fformatau digidol. Mae’r Porth Termau yn adnodd cenedlaethol sy’n galluogi'r defnyddiwr i chwilio trwy gynnwys y mwyafrif llethol o’r geiriaduron termau hynny ar y we, o un lleoliad, a hynny am ddim.

Mae manylion y geiriaduron termau sydd wedi’u cynnwys o fewn y Porth Termau i’w cael yma. Ychwanegir geiriaduron termau newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y Ganolfan Safoni Termau i’r wefan wrth iddynt ddod yn barod i’w cyhoeddi.

Lleolwyd y Ganolfan Safoni Termau ar y cychwyn yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ond mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ers 2001. Mae wedi cael ei harwain ers y dechrau gan Delyth Prys, ac ar hyn o bryd mae yno ddau derminolegydd llawn amser arall, Gruffudd Prys a’r Dr Tegau Andrews. Datblygir y gronfa ddata, rhyngwyneb gwe, ac adnoddau digidol eraill gan Dewi Bryn Jones a David Chan, datblygwyr meddalwedd yr Uned Technolegau Iaith.

O Fewn y Porth Termau[golygu | golygu cod]

O fewn y Porth Termau Cymru cynhwysir geiriau a thermau o byrth eraill, fel eu bod yn hwylus o fewn un wefan:[1]

Y Geiriaduron Termau[golygu | golygu cod]

Dyma fanylion y geiriaduron termau sy’n rhan o’r Porth Termau:

  • Buchod Cwta - Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Selwyn Williams. Rhestr Gymraeg Safonol Buchod Cwta (Coccinelidae) Prydain, Project Llên Natur. Cyhoeddiad ar-lein yn unig. Cymdeithas Edward Llwyd, 2014
  • Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC) - Un o’r safonau allweddol cyffredin a ddatblygwyd ar gyfer asiantaethau cadwraeth natur. Datblygwyd y rhestr Gymraeg mewn project ar y cyd rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Edward Llwyd. Cyhoeddiad ar-lein yn unig. Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Edward Llwyd, 2010
  • Gweision Neidr - Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Selwyn Williams. Rhestr Gymraeg Safonol Gweision Neidr Prydain, Project Llên Natur. Cyhoeddiad ar-lein yn unig. Cymdeithas Edward Llwyd, 2009
  • Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Tegau Andrews, Delyth Prys, ynghyd ag awduron a golygyddion allanol: A.O.Brown, Dyfed Elis‐Gruffydd, E.W. Jones, J.C. Hughes, B.M. Williams, Y. Moseley, B. Jones, D.R. Hughes, M. Heorger, Gwenno Ffrancon, Elain Dafydd, Owain Lloyd Davies, Dewi Llŷr Jones, Arne Pommerening, Llinos Spencer, Mair Edwards, Enlli Thomas, ac arbenigwyr pwnc y Coleg Cymraeg. Termau wedi’u safoni a’u diffinio ar gyfer addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2010-2018. ISBN 978 1 910699 18 8
  • Gwyfynod, Glöynnod Byw a Gweision Neidr - Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Huw John Huws, Dafydd Lewis. Y drydedd gyfrol yn y gyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion a gyhoeddir gan Gymdeithas Edward Llwyd. Cymdeithas Edward Llwyd , 2009 ISBN 978 1 84527 259 3.
  • Termau Cyllid - Delyth Prys. Cyhoeddwyd hefyd ar bapur fel Geirfa Adrannau’r Llywodraeth (2001). Mae’n cynnwys termau gan yr Asiantaeth Budd-daliadau, Asiantaeth Cynnal Plant, Archwiliad Dosbarth, Gwasanaeth Apeliadau, Tollau Tramor a Chartref EM Cymru, Cyllid y Wlad, Y Swyddfa Brisio, a’r Gwasanaeth Cyflogi. Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2000. Dim ISBN
  • Termau’r Asiantaeth Safonau Bwyd - Sioned Fidler, Siwan Jones, Rhys Hughes, Delyth Prys. Termau a ddefnyddir gan yr Asiantaeth ei hun. Prifysgol Bangor a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, 2018
  • Termau’r Cyngor Gofal - Delyth Prys gydag arbenigwyr pwnc y Cyngor Gofal. Ar gyfer ymarferwyr gwaith a gofal cymdeithasol, addysgwyr, myfyrwyr a chyfieithwyr. Diweddariad o Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol CCETSW/TOPPS (2000), Cyngor Gofal Cymru, 2015. ISBN 978-1-84220-133-6
  • Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth - Gwerfyl Roberts, Delyth Prys. Termau a safonwyd ar gyfer dysgu dwyieithog yn Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Prifysgol Bangor. Prifysgol Bangor, 1997, ISBN 0 904567 958
  • Termau Rhywogaethau Morol CNC - Bruce Griffiths, Delyth Prys, Emma Lowe. Rhestr o dermau safonedig Cymraeg, Saesneg a Gwyddonol ar gyfer rhywogaethau yn yr amgylchedd morol. Fe’i defnyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun a’r rhai sy’n gweithio gydag ef. Prifysgol Bangor a Cyfoeth Naturiol Cymru, 2021, ISBN 978-1-84220-190-9

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Ynghylch". Gwefan Porth Termau Cymru. Cyrchwyd 11 Hydref 2022.
  2. "Byd Term Cymru". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 11 Hydref 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]