Mòd Genedlaethol yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
An Comunn Gaidhealach - geograph.org.uk - 885559.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwydd ddwyieithog yn croesawu mynychwyr i'r Mòd Genedlaethol 2013 a gynhaliwyd yn nhref Paisley

Gŵyl Geltaidd ryngwladol wedi’i hysbrydoli gan yr Eisteddfod sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, cerddoriaeth draddodiadol a diwylliant Gaeleg yr Alban yw’r Mòd Cenedlaethol Brenhinol a gynhelir yn flynyddol yn yr Alban. Mae'r Mòd, fel digwyddiad gerddorol a diwylliannol yn un hen a byw. Fel yng Nghymru lle ceir eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad, felly hefyd yn yr Alban lle ceir amrywiaeth eang o Mòdau lleol. Serch hynny, y Mòd Genedlaethol yw'r brif Mòd ac, fel y cyfeirid ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel 'yr Eisteddfod', felly'n am cyfeirir at y Mòd i olygu'r digwyddiad blynyddol genedlaethol. Bu iddo ddylanwadu ar sefydlu gŵyl Oireachtas na Gaeilge yn Iwerddon yn 1897.

Mae’r Mòd yn cael ei redeg gan An Comunn Gàidhealach (Y Gymdeithas Aeleg) ac mae’n cynnwys cystadlaethau a gwobrau.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y Mòd gan y Comunn Gàidhealach. Dylanwadodd Eglwys Sant Columba, Glasgow, yn fawr hefyd ar gychwyn y Mòd pan, ym 1891, gwahoddwyd ei chôr i roi Cyngerdd Gaeleg yn Oban dan lywyddiaeth yr Arglwydd Archibald Campbell.[1] Mynychwyd y cyngerdd gan lawer o uchelwyr yr Alban, gan gynnwys Louise, y Dywysoges Frenhinol a Duges Fife. Wedi'r cyngerdd, diddanwyd y côr i swper yng Ngwesty'r Alexandra, a cheir disgrifiad o'r adloniant yn un o nofelau William Black.[1] Y cyngerdd hwn oedd rhagarweiniad y Mòd cyntaf, a gynhaliwyd yn Oban y flwyddyn ganlynol ac enillodd Côr St. Columba y wobr yn y gystadleuaeth cerddoriaeth Gorawl.[1]

Mae'r Mòd wedi'i gynnal bron bob blwyddyn ym mis Hydref er 1892. Yr unig flynyddoedd na chynhaliwyd y Mòd Cenedlaethol oedd blynyddoedd rhyfel 1914-1919 a 1939–1946, a blwyddyn bandemig 2020. Nid oedd y "Royal" yn wreiddiol rhan o'r enw. Mae'n dal yn arferiad gan Eglwys Sant Columba i anfon parti cyngerdd i gychwyn y gwaith codi arian pan fydd y Mòd yn ymweld ag Oban. Yn ogystal ag ennill prif gystadleuaeth y côr am y tair blynedd gyntaf, mae’r gynulleidfa hefyd wedi ennill llawer o fedalau aur y Mòd dros y blynyddoedd.

Digwyddodd trobwynt yn ystod Mòd Cenedlaethol 2011 yn Stornoway, pan enillodd barddoniaeth Lewis MacKinnon, a gyfansoddwyd yn nhafodiaith Gaeleg Canada a siaredir yn Antigonish County, Nova Scotia, y Goron Farddol. Dyma'r tro cyntaf yn hanes y Mòd i'r cyfryw wobr gael ei rhoi i rywun nad oedd yn Albanwr.[2]

Cystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cystadlaethau ffurfiol yw'r rhan fwyaf o'r Mōd. Mae digwyddiadau corawl a cherddoriaeth draddodiadol gan gynnwys caneuon Gaeleg, ffidil, pibau, telyn clarsach a grwpiau gwerin yn dominyddu. Mae digwyddiadau llafar yn cynnwys darllen barddoniaeth i blant ac oedolion, adrodd straeon a darllen y Beibl, a chategorïau fel Adodd Hen Chwedlau ac Ymgom Ddigri. Gall plant hefyd gyflwyno drama wreiddiol, a cheir cystadlaethau mewn llenyddiaeth ysgrifenedig. Mae’r Mòd hefyd yn cynnal cystadleuaeth shinti (gêm ffon a phêl tebyg i hurling yn Iwerddon neu'r bando flynyddol, Cwpan y Mòd, rhwng y ddau dîm shinty sydd agosaf at ble mae’r Mòd yn cael ei gynnal.

Gwahoddir enillwyr cystadlaethau pob dydd i berfformio yn y ceilidhau enillwyr a gynhelir bob nos.

Mae'r Mòd yn ddathliad o iaith a diwylliant Gaeleg yr Alban,[3] sy'n codi ei broffil ac yn cyfrannu at y nod o sicrhau ei ddyfodol.[4]

Yn sgil gwelliannau yn narpariaeth addysg cyfrwng Gaeleg ar draws yr Alban erbyn 2007 roedd adran y siaradwyr rhugl iau wedi cynyddu i'r fath raddau nes i'r trefnwyr gael eu gorfodi i ymestyn rhai o'r cystadlaethau y tu hwnt i ddiwrnod.[5]

Bu rhywfaint o feirniadaeth ar amlygrwydd y "Fedal Aur" o ganu operatig, y mae rhai cerddorion Gaeleg yn teimlo ei fod yn ymyleiddio arddulliau canu mwy traddodiadol.[6]

Yn ddiwylliannol, mae’r Mòd yn debyg i’r Eisteddfod Gymraeg ac Oireachtas na Gaeilge yn Iwerddon.

Ffrinj y Mòd - Mód Amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Na Gathan yn perfformio yn Ffrinj y Mòd yn Falkirk

Mae’r Mòd yn denu tyrfa fawr, sy’n arwain lleoliadau lleol i gynnal digwyddiadau amrywiol yn ogystal â digwyddiadau swyddogol y Mòd. Cyfeirir at y digwyddiadau hyn gyda'i gilydd fel Ffrinj y Mòd.[7]

I’r rhai sy’n cymryd rhan, mae’r Mòd hefyd yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Adnabyddir y Mòd yn boblogaidd fel “Gemau Olympaidd Wisgi”,[4] a ystyrir yn "either a vicious slur or fair comment".[8]

Sylw yn y cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn draddodiadol mae BBC Scotland wedi darlledu uchafbwyntiau'r Mòd ar BBC One, BBC Two a Radio nan Gàidheal.[4] Ers ei chyflwyno yn 2008, mae BBC Alba wedi darparu darllediadau yn yr Aeleg. Mae'r cyflwynwyr wedi cynnwys y cerddor traddodiadol, siaradwr Gaeleg a darlledwr, Mary Ann Kennedy a'r ddarlledwraig Gaeleg Cathy Crombie.[4]

Perthynas gyda Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae perthynas weithredol rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Mòd. Yn 2002 bu i John Macleod ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 er mwyn astudio a phrofi sut cynhelir y Brifwyl yng Nghymru ac os oes arferion y gellid eu mabwysiadu gan brifwyl yr Aeleg.[9] Galwodd John MacLeod ar gefnogaeth Cymry i bwyso ar i bapur pleidleisio Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014 i fod yn ddwyieithog, Saesneg a Gaeleg.[10]

Yn wahanol i'r cenhedloedd Frythoneg eraill (Cernyw a Llydaw) does gan y Mòd ddim byd tebyg i Orsedd y Beirdd ei hun na'n gysylltiedig o'r digwyddiad. Serch hynny, ceir perthynas a chydnabyddiaeth rhwng y ddau sefydliad a nodir hynny ar wefan Gorsedd Cymru.[11]

Gwyliau'r gorffennol a'r dyfodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r Mòd yn cael ei gynnal bob mis Hydref, ac mae wedi’i gynnal yn y lleoliadau canlynol ledled yr Alban, yr Ucheldir a’r Iseldir.

Dyma'r lleoliadau hyd yma:[12]

Gohiriwyd sawl Mòd gan flwyddyn oherwydd COVID-19:[13]

Yn wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol, dydy'r Mòd byth wedi ei chynnal y tu allan i'w gwlad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Encouragement to the Gaelic Mod" Archifwyd 22 October 2007 yn y Peiriant Wayback. in The Highlander's Friend Chapter 9, Highland Cathedral, St Columba's Church of Scotland
  2. Non-Scot is Gaelic Bard for first time By David Ross. The Herald, 19th October 2011.
  3. "Mod generated £3.5m for Inverness". BBC News. BBC. 3 February 2015.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 MacLeod, Murdo; Stewart, Fiona (12 October 2002). "Mod 2002 - and 20,000 Gaels blow in for festival of music". The Scotsman. Johnston Press. Cyrchwyd 15 June 2021.
  5. "Mod's fluent youth speaks volumes for Gaelic education". The Scotsman. Johnston Press. 16 October 2007. Cyrchwyd 21 February 2015.
  6. "Gold Medal controversy casts a shadow over Mod performances". www.scotsman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 March 2017.
  7. House, Ellie (10 October 2014). "Mod expected to generate £3 million for Inverness economy, say organisers". Inverness Courier. Cyrchwyd 5 December 2016.
  8. Ross, Peter (18 October 2008). "Whisky Olympics continue to thrive in a Mod-ern world". The Scotsman. Johnston Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2015. Cyrchwyd 12 January 2022.
  9. "O'r Mod i'r Steddfod". BBC Cymru Fyw. 2022.
  10. "Dyn 'Gorsedd' yr Alban yn galw am help ei gyd-Geltiaid". Golwg 360. 2013.
  11. "Cysylltiadau". Gorsedd Cymru. Cyrchwyd 9 Medi 2022.
  12. List of Mod's places for each year on Sabhal Mòr Ostaig website
  13. "An Comunn Gàidhealach - Royal National Mod : Mod News".

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]