Ayr
Cerflun o Robert Burns yn Sryd Fawr, Ayr
Tref a phorthladd yn sir De Swydd Ayr yn ne-orllewin yr Alban yw Ayr (Gaeleg: Inbhir Àir). Saif ar lannau Moryd Clud, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 46,050. Mae Caerdydd 453.8 km i ffwrdd o Ayr ac mae Llundain yn 531.6 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 49.7 km i ffwrdd.
Arferai Ayr fod yn brif dref yr hen Swydd Ayr, ac mae'n awr yn brif dref De Swydd Ayr. Ganed Robert Burns gerllaw, yn Alloway, sy'n awr yn un o faesdrefi Ayr.