Robert Burns
Gwedd
Robert Burns | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ionawr 1759 Alloway |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1796 Dumfries |
Man preswyl | Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | cyfansoddwr caneuon, bardd, ysgrifennwr, cerddolegydd, ffermwr |
Adnabyddus am | Auld Lang Syne, To a Mouse, Is There for Honest Poverty, Ae fond kiss, and then we sever..., Scots Wha Hae, Tam o' Shanter, Halloween, The Battle of Sherramuir |
Arddull | pennill, barddoniaeth naratif, cân, baled, cantata |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | William Burnes |
Mam | Agnes Broun |
Priod | Jean Armour |
Plant | Elizabeth Bishop (Burns), Robert Burns |
Gwefan | http://www.robertburns.org/ |
llofnod | |
Bardd o'r Alban oedd Robert Burns neu Rabbie Burns (25 Ionawr 1759 – 21 Gorffennaf 1796). Cafodd ei eni yn Alloway, Swydd Ayr.
Bu'n byw yn Dumfries o 1791 hyd ei farwolaeth yn 1796. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys St. Michael's.
Ystyrir Burns yn arloeswr y Mudiad Rhamantaidd ac yn dilyn ei farwolaeth roedd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i sylfaenwyr rhyddfrydiaeth a sosialaeth.
Casglodd ganeuon gwerin ar hyd a lled yr Alban. Ymhlith ei farddoniaeth a chaneuon enwog mae "A Red, Red Rose", "A Man's A Man for A' That", "To A Louise" a "To A Mouse".
Dethlir Noson Burns gan Albanwyr ar draws y byd ar 25 Ionawr bob blwyddyn drwy gael Swper Burns, dathliad mwy poblogaidd na dathliad swyddogol yr Alban, sef Dydd Sant Andreas.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Poems Chiefly in the Scottish Dialect (1786)