Ynysoedd Allanol Heledd
| Math | ynysfor, un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area |
|---|---|
| Prifddinas | Steòrnabhagh |
| Poblogaeth | 26,720 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Heledd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,058.7026 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 57.76°N 7.02°W |
| Cod SYG | S12000013 |
| GB-ELS | |
![]() | |
Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-gorllewinol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Siar, Saesneg: Outer Hebrides). Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd. Yr enw ar yr etholaeth seneddol (y DU) yw Na h-Eileanan an Iar.
Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.

Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd.[1] Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.
Ynysoedd a'u poblogaeth
[golygu | golygu cod]Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:
| Ynys | Poblogaeth (2001) |
| Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris) | 19,918 |
| De Uist | 1,818 |
| Gogledd Uist | 1,271 |
| Benbecula | 1,219 |
| Barraigh | 1,078 |
| Sgalpaigh na Hearadh | 322 |
| Bernera Fawr | 233 |
| Griomasaigh | 201 |
| Beàrnaraigh | 136 |
| Eirisgeidh | 133 |
| Bhatarsaigh | 94 |
| Baile Sear | 49 |
| Grimsay, De-ddwyrain Benbecula | 19 |
| Flodaigh | 11 |
| CYFANSWM (2001) | 26,502 |
Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol ll; tudalen 1843.]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Harry Williams, Crwydro'r Ynys Hir (Llyfrau'r Dryw, Llandybie). Cyhoeddwyd fel rhan o'r gyfres boblogaidd 'Crwydro Cymru'.
