Eirisgeidh
Gwedd
| Math | ynys, cyngor cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 143 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 700 ha |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides |
| Cyfesurynnau | 57.075°N 7.29°W |
![]() | |
Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Èirisgeidh (Saesneg: Eriskay). Saif rhwng ynysoedd mwy De Uist a Barraigh, a chysylltir hi a De Uist gan gob a adeiladwyd yn 2001[1]. Mae siop, eglwys a Chanolfan Gomuned ar Eirisgeidh. Mae fferi Caledonian MacBrayne rhwng Ceann a' Ghàraidh ar Eirisgeidh ac Ardmore ar Barraigh.[2] Poblogaeth Èirisgeidh yn 2001 oedd 133.
Er mai ynys fechan ydyw, mae'n adnabyddus am nifer o resymau. Yma y glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) gyda saith o gymdeithion ar 23 Gorffennaf 1745 i ddechrau gwrthryfel y Jacobitiaid. Yn 1941, yma y bu llongddrylliad yr SS Politician gyda'i chargo o wisgi; digwyddiad a anfarwolwyd yn Whisky Galore.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan visitscotland.com
- ↑ "Gwefan Calmac". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-31. Cyrchwyd 2020-12-10.



