Wisgi
Gwedd
| Math | gwirod grawn |
|---|---|
| Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon, Yr Alban |
| Enw brodorol | Whiskey |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/082bv |
| Thesawrws y BNCF | 24336 |

Gwirod a wneir o wahanol fathau o rawn, ond yn arbennig barlys, yw wisgi neu chwisgi (Gaeleg yr Alban: uisge-beatha, Gwyddeleg: uisce-beatha, Saesneg: whisky neu whiskey). Daw'r gair yn wreiddiol o'r Aeleg, lle mae â'r ystyr "dŵr bywyd".
Ceir llawer o wahanol fathau o wisgi, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Wisgi yr Alban yw'r enwocaf, a chynhyrchir nifer fawr o wahanol fathau, yn enwedig yn Ucheldiroedd yr Alban. Ceir nifer o wahanol fathau o Iwerddon hefyd, tra mae wisgi Penderyn yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Ymhlith gwledydd eraill sy'n cynhyrchu diodydd a ddisgrifir fel "wisgi", mae'r Unol Daleithiau a Siapan.