Charles Edward Stuart
| Charles Edward Stuart | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Rhagfyr 1720 Palazzo Muti, Rhufain |
| Bu farw | 31 Ionawr 1788 o strôc Palazzo Muti, Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Galwedigaeth | cogiwr, arweinydd milwrol, gwleidydd |
| Swydd | Jacobite pretender |
| Plaid Wleidyddol | Jacobitiaeth |
| Tad | James Francis Edward Stuart |
| Mam | Maria Clementina Sobieska |
| Priod | Tywysoges Louise o Stolberg-Gedern |
| Partner | Clementina Walkinshaw, Marie Louise de La Tour d'Auvergne |
| Plant | Charlotte Stuart |
| Llinach | stiwartiaid |
| Gwobr/au | Urdd y Gardas |
| llofnod | |

Ŵyr i'r brenin Iago II/VII o Loegr a'r Alban oedd Charles Edward Stuart (31 Rhagfyr 1720 - 31 Ionawr 1788) (Gaeleg: Teàrlach Eideard Stiùbhairt, yn adnabyddus wrth ei lysenw Saesneg, Bonnie Prince Charlie).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Charles yn fab i James Francis Edward Stuart, yntau yn fab i Iago II/VII, oedd wedi ei ddiorseddu yn 1688. Ganed Charles yn Rhufain, a theuliodd ei ieuenctid yno ac yn Bologna.
Cefnogid hawl y Stiwartaid i'r orsedd gan fudiad y Jacobitiaid, oedd yn cymryd ei enw o'r Lladin Jacobus ("Iago"). Roedd cefnogaeth sylweddol iddynt yn Ucheldiroedd yr Alban, a rhywfaint yng ngweddill yr Alban a gogledd Lloegr ac ychydig yng Nghymru hefyd.
Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnogaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland ar 16 Ebrill 1746 ym Mrwydr Culloden. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.
Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnâi dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".