Uibhist a Deas
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Loch Baghasdail |
| Poblogaeth | 1,754 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 32,026 ha |
| Uwch y môr | 620 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides |
| Cyfesurynnau | 57.2667°N 7.3167°W |
| Hyd | 32 cilometr |
![]() | |
Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Uibhist a Deas (Saesneg: South Uist).
Saif Uibhist a Deas i'r de o ynys Beinn na Faoghla (Benbecula), gyda chob gerllaw Carnan yn cario'r briffordd A865 i'w cysylltu, ar draws culfor Bagh nam Faoilean. Yn y de, mae Uibhist a Deas ers 2003 wedi ei chysylltu ag ynys Eirisgeidh (Eriskay) gerllaw Ludag, lle mae hefyd fferi yn ei chysylltu ag ynys Barraigh.
Yn fras, rhennir yr ynys yn dair rhan: Taobh a Tuath yn y gogledd, Ceann a Deas yn y de a Na Meadhanan rhyngddynt. Y prif bentref yw Loch Baghasdail (Lochboisdale), ger y llyn o'r un enw. Oddi yma, mae fferi yn hwylio i Oban a Mallaig ar dir mawr yr Alban.
Mae'r boblogaeth tua 1,800, gyda'r mwyafrif yn siarad Gaeleg. Yn 2006, prynwyd yr ynys gan y trigolion.


