Beinn na Faoghla

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Beinn na Faoghla
280px
Math Ynys Edit this on Wikidata
Prifddinas Baile a' Mhanaich Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,303 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Ynysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Sir Ynysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 82.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 124 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Sea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 57.4458°N 7.3196°W Edit this on Wikidata

Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Beinn na Faoghla neu Beinn nam Faoghla, (Saesneg: Benbecula). Saif rhwng Uibhist a Tuath, o'r gogledd. ac Uibhist a Deas, i'r de. Mae priffordd yr A865 yn ei chysylltu a'r ynysoedd hyn.

Tir isel yw'r ynys, gyda'r copa uchaf, Ruibheal, 124 medr uwch lefel y môr. Mae tua 10 km o'r gogledd i'r de. Prif bentref yr ynys yw Baile a Mhanaich (Balivanich); mae maes awyr bychan ychydig i'r gogledd-ddwyrain ar benrhyn An Tom. Ymhlith y pentrefi eraill mae ,Griminis, Cnoc a Monach, Torlum, Dun Gammhich, Uachdar a Gramsdal.

Yn 1958, sefydlwyd canolfan filwrol ar Beinn na Faoghla, sydd wedi cael rhywfaint o effaith ar boblogaeth yr ynys. Erbyn hyn mae tua 1,300 o drigolion, gyda 56% yn siaradwyr Gaeleg yng ngyfrifiad 2001.

Lleoliad Beinn na Faoghla