Na Hearadh

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Na Hearadh
Na Hearadh
Golden Road Harris.JPG
Math penrhyn Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,916 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynysoedd Allanol Heledd, Harris Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 401 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 57.92139°N 6.82944°W Edit this on Wikidata
Cod OS NB155005 Edit this on Wikidata
Cod post HS3 Edit this on Wikidata
Fferi An Tairbeart - Uig

Y rhan ddeheuol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Na Hearadh (Saesneg: Harris). Gelwir y rhan ogleddol yn Leòdhas (Saesneg:Lewis). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,061; y prif sefydliad yw An Tairbeart neu Tairbeart na Hearadh, Saesneg:Tarbert, lle cellir cael fferi i Uig ar ynys Skye.

Ystyrir Sant Kilda (40 milltir i’r gogledd dwyrain) ac ynys Rockall, sydd yn 230 milltir i’r gorllewin o Uibhist a Tuath yn rhan o plwyf Na Hearadh.

An Cliseam o'r Abhainn Mharaig, ger y briffordd i Leòdhas.
Traeth Losgaintir

Ar y cyfan mae Na Hearadh yn fwy mynyddog na Leòdhas, ac yma mae'r copa uchaf ar Ynysoedd Allanol Heledd, sef An Cliseam, 799 medr. Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda thua 60% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg fel iaith gyntaf a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma. Mae'r ynys yn enwog am y brethyn "Harris tweed", ond ar Leòdhas y gwneir y rhan fwyaf ohono bellach. Mae arddangosfa yn Drinisiadar gyda arddangosiadau o’r crefft.[1]. Mae siop gwerthu Harris Tweed yn An Tairbeart. Mae hefyd distyllfa, lle crëir whisgi.[2]

Mae An Tairbeart ar culdir rhwng gogledd a de Na Hearadh. Mae’r gogledd yn fwy mynyddog na’r de, ac mae pont yn cysylltu Ynys Scalpay (Sgalpaigh na Hearadh gyda Na Hearadh. Mae nifer o draethau i’r de o An Tairbeart ar ei arfordir gorllewinol sydd yn denu ymwelwyr i’r ynys.[3]. Maent yn cynnwys traethau Losgaintir, Seilebost, Borve, Northton a Sgarasta.

Cysylltir Na Hearadh gyda Ynys Skye gan fferi o An Tairbeart i Uig. Mae fferi arall yn mynd o An Tòb (Saesneg: Leverburgh) i Ynys Beàrnaraigh o le mae ffordd yn arwain at Uibhist a Tuath.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. ’The Outer Hebrides: the Western Isles of Scotland from Lewis to Barra’ gan Mark Rowe; cyhoeddwyr Bradt Guides
  2. Gwefan visitouterhebrides.co.uk
  3. Gwefan scotlandinfo.eu
  4. Gwefan Caledonian MacBrayne