Leòdhas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Leòdhas
Callanish Stones in summer 2012 (7).JPG
Math penrhyn Edit this on Wikidata
Poblogaeth 18,500 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 1,770 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 58.2°N 6.6°W Edit this on Wikidata
Cod OS NB426340 Edit this on Wikidata
Lleoliad Ynys Leòdhas
Llan Lochs, ar y briffordd rhwng Steòrnabhagh a Na Hearadh
Creigiau ar draeth Tolastadh bho Thuath

Y rhan ogleddol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Leòdhas (Saesneg:Lewis). Gelwir y rhan ddeheuol yn Na Hearadh (Harris). Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda tua 60% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg fel iaith gyntaf a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma.

Yn 2001 roedd poblogaeth Leòdhas yn 16,872. Prifddinas yr ynys yw Steòrnabhagh (Saesneg: Stornoway), sydd a chysylltiad fferi ag Ullapool ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Melbost, rhyw ddwy filltir i ffwrdd. Ar un adeg roedd dylanwad y Llychlynwyr yn gryf yma, a daw enw'r ynys o Ljóðhús yn Hen Norwyeg. Maint Leòdhas yw 683 milltir sgwâr[1]. Mae’n cynnwys 404,184 erw o dir, 24863 erw o ddŵr mewnol, 230 erw o forfa, 7,775 erwo arfordir a 150 erw o ddŵr llanwol.

Ceir nifer o henebion diddorol ar yr ynys; yr enwocaf efallai yw cylch cerrig Calanais (Callanish) a'r broch yn Dun Carloway. Mai sawl cylch hŷn yn ymyl cylch enwocaf Calanais. Mae’r ynys hefyd yn nodedig am y bythynnod traddodiadol a elwir yn Dai Duon, gydag enghreifftiau yn Arnol a Garenin. Darganfuwyd sawl tŷ o’r Oes Haearn yn ymyl traeth Bostadh ar ôl storom ym 1993, datguddiodd 5 ohonynt gan gloddfa ym 1996. Adeiladwyd copi o dŷ Pictaidd gerllaw ym 1998.[2]

Cyrhaeddodd Llychlynwyr yn ystod y 9fed ganrif, ac arhosodd rhai, yn priodi pobl leol, a daethant yn gristnogol. Disodlwyd tai crynion gan dai sgwâr, yn ôl y dull llychlynaidd. Daeth yr ynys yn rhan o Frenhiniaeth Mann a’r Ynysoedd, eiddo i Norwy.[3]

Mae gan Leòdhas nifer o draethau nodedig, megis Bostadh, Tolastadh bho Thuath, Uig, Ness, Dalmor, Dalbeag a Valtos.[4]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thompson, Francis (1968) Harris and Lewis. Newton Abbott. David & Charles. Tudalen 15
  2. Guardian, 28 Mehefin 2017
  3. Gwefan awdurdod leol Archifwyd 17 October 2007[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  4. Gwefan isle-of-lewis.com


Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato