Neidio i'r cynnwys

Tolastadh bho Thuath

Oddi ar Wicipedia
Tolastadh bho Thuath
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau58.3467°N 6.2106°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Tolastadh bho Thuath (Saesneg: North Tolsta) yn bentref yn Leòdhas, rhan o’r Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban; Mae gwasanaeth fws yn cysylltu’r pentref â Steòrnabhagh, 14 milltir i’r De[1]. Mae enw’r pentref yn golygu ‘Fferm Tholf’.[2] Mae gan y pentref ysgol gynradd, neuadd gymunedol swyddfa’r post a siop gymunedol. Agorwyd yr ysgol a neuadd ar 22 Mai 1976.[3]

Mae Traigh Mhor a Traigh Ghearadha yn draethau i’r gogledd o’r pentref ac mae Rubha Tholastaidh (Saesneg: Tolsta Head) i’r dwyrain.[1] Mae 5 ogof ar ben Trigh Mhor, gyda’r enw ‘Ogofau Bywyd’.

Traigh Mhor
Nant, Traigh Ghearadha
Y pileri, Traigh Ghearadha

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato