Na h-Eileanan an Iar (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfesurynnau: 57°40′16″N 6°57′11″W / 57.671°N 6.953°W / 57.671; -6.953

Na h-Eileanan an Iar (Outer Hebrides)
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Na h-Eileanan an Iar (Outer Hebrides) yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr Alban Na h-Eileanan Siar
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd 1918
Aelod Seneddol Angus MacNeil SNP
Nifer yr aelodau 1
Crewyd o Ross a Cromarty
Inverness-shire
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd Ewrop Yr Alban

Mae Na h-Eileanan an Iar yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1918 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon. Mae'r etholaeth o fewn sir Na h-Eileanan Siar. Cyn Etholiad cyffredinol 2005 yr enw ar yr etholaeth oedd the Western Isles. Ceir etholaeth o'r un enw ar gyfer Senedd yr Alban.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Angus MacNeil, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) a gafod 8,662 (54.3%) o'r bleidlais. Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd gyda mwyafrif o 1,007.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad Aelod Plaid
1918 Donald Murray Rhyddfrydwyr
1922 Syr William Dingwall Mitchell Cotts Rhyddfrydwyr Cenedlaethol
1923 Alexander Mackenzie Livingstone Rhyddfrydwyr
1929 Thomas Bridgehill Wilson Ramsay Rhyddfrydwyr
1931 Rhyddfrydwyr Cenedlaethol
1935 Malcolm Macmillan Llafur
1970 Donald Stewart SNP
1987 Calum MacDonald Llafur
2005 Angus MacNeil SNP
2017 Angus MacNeil SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|