Uibhist a Tuath
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gogledd Uist)
Jump to navigation
Jump to search
280px | |
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Loch nam Madadh ![]() |
Poblogaeth |
1,254 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Sir |
Ynysoedd Allanol Heledd, North Uist ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
30,305 ha ![]() |
Gerllaw |
The Minch, Sea of the Hebrides ![]() |
Cyfesurynnau |
57.6°N 7.3333°W ![]() |
Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Uibhist a Tuath (Saesneg: North Uist).
Uibhist a Tuath yw'r ynys fwyaf gogleddol o'r grŵp deheuol o Ynysoedd Allanol Heledd. Enw arall arni yw Tir an Eòrna, "Tir yr Haidd". Mae tua 30 km o hyd a 20 km o led, gyda llynnoedd yn ffurfio tua traean o'i harwynebedd. Tir cymharol isel yw'r rhan fwyaf o'r ynys, gyda'r copa uchaf, Maireabhal (Saesneg: Marrival) yn 230 metr uwch lefel y môr. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas, yn cynnwys Beàrnaraigh, Orosaigh, Baile Siar a Griomasaigh. I'r de, mae'r briffordd A865 yn ei chysylltu ag ynys Beinn na Faoghla (Benbecula). Mae'r boblogaeth tua 1,500, gyda'r mwyafrif yn siarad Gaeleg. Y pentref mwyaf yw Loch na Madadh.