Goursez Vreizh
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1900 |
Sylfaenydd | Jean Le Fustec |
Ffurf gyfreithiol | association déclarée |
Pencadlys | Llydaw |
Gwefan | http://www.gorsedd.bzh/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gorsedd genedlaethol Llydaw yw Goursez Vreizh (Llydaweg: "Gorsedd Llydaw"). Mae'n sefydliad diwylliannol sy'n cyfateb i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yng Nghymru a Gorseth Kernow yng Nghernyw ac sy'n cydweithredu â'r gorseddau hynny.
Hanes
[golygu | golygu cod]Théodore Hersart de la Villemarqué (1815-1895) oedd y Llydawr cyntaf i gael ei wneud yn aelod o Orsedd y Beirdd yng Nghymru, diolch i'w gyfeillgarwch â Carnhuanawc. Cymerodd yr enw barddol 'Hersaty Kervaker'. Ar ôl dychwelyd i Lydaw, sefydlodd Breuriez-Breiz (Brawdolaeth Beirdd Llydaw) ond nid arweiniodd hyn at greu Gorsedd yno.
Dyma'r prif gamrau yn hanes Gorsedd Llydaw:
- 1838: Derbynnir Villemarqué, Auguste Brizieux a Jean-François Gonidec yn aelodau anrhydeddus o Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni.
- 1843 (neu 1857): mae Villemarqué yn sefydlu'r Breuriez-Breiz, ond mae gweithgareddau'r Frawdoliaeth yn gyfyngedig i ysgolheictod ac ieithyddiaeth.
- 1867: mae cynrychiolwyr o Orsedd y Beirdd yn mynychu'r Gynhadledd Geltaidd.
- 16 Awst 1898: sefydlu l’Union régionaliste bretonne (URB: 'Undeb rhanbarthol Llydaw).
- 1899: 20 o Lydawyr yn cael eu gwahodd gan Orsedd y Beirdd (Cymru) i ffurfio cnewyllyn grŵp yn Llydaw (rhoddir iddynt 'Gleddyf Arthur'). Cawsant eu urddo'n ofyddion, ond heb fod yn aelodau llawn o'r urdd.
- 1 Medi 1900: mae cynulliad i sefydlu gorsedd yn Llydaw yn cyfarfod yn la Veuve Le Falc’her a Guingamp. Daw Jean Fustec (dan yr enw barddol 'Yann ab Gwilherm'; 'Lemenik' yn nes ymlaen) yn cael ei urddo'n archdderwydd cyntaf "Gorsedd Llydaw".
- 23 Tachwedd 1908: Cyhoeddiad swyddogol 'Gorsedd Barzed Gourenez Breiz Izel' (Gorsedd Beirdd Gorynys Llydaw).
Yr enw llawn cyfredol ar yr orsedd heddiw yw Breudeuriezh Drouized, Barzhed hag Ovizion Breizh (Brawdoliaeth Derwyddon, Beirdd ac Ofyddion Llydaw).
Drouized-meur - Archderwyddon Llydaw
[golygu | golygu cod]- Jean Le Fustec, o 1900 hyd 1903.
- Yves Berthou-Kaledvoulc'h (Caledfwlch), o 1904 hyd 1932.
- François Jaffrennou (Taldir), o 1933 hyd 1955.
- Pêr Loisel-Eostig Sarzhaw, o 1956 hyd 1980.
- Gwenc'hlan Le Scouëzec (Gwenc'hlan) o 1981 yd 2008.
- Per Vari Kerloc'h (Morgan) ers 2008.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cynulliad o dderwyddon, 1906
-
Beirdd yr Goursez yn canu'r anthem, Bro goz ma Zadou, 1907
-
Canmlwyddiant Goursez Vreizh, 1999
-
Yr Archdderwydd Gwenc'hlan Le Scouëzec, 2007
-
Per Vari Kerloc'h (Morgan) ers 2008.
-
Y Tribann, arwyddlun Goursez Vreizh sy'n seiliedig ar Nod Cyfrin Gorsedd y Beirdd Cymru
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Hanes Gorsedd y Beirdd gan Geraint Bowen a Zonia Bowen . Cyhoeddiadau Barddas, Dinbych 1991
- Philippe Le Stum, Le Néo-druidisme en Bretagne - Origine, naissance et développement, Éditions Ouest-France, coll. « De mémoire d'Homme : L'Histoire », Rennes, 1998, ISBN 2-7373-2281-2.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Goursez Vreizh
- (Saesneg) Goursez Vreizh 2002 ar safle Gorseth Kernow