Geraint Bowen
| Geraint Bowen | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Medi 1915 Llanelli |
| Bu farw | 16 Gorffennaf 2011 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Priod | Zonia Bowen |
Bardd, addysgwr a chenedlaetholwr a oedd yn hanu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, oedd y Dr. Geraint Bowen (10 Medi 1915 – 16 Gorffennaf 2011). Yr oedd ei dad, cyn-lowr, yn weinidog gyda'r Annibynwyr a threuliodd ei ieuenctid yng Ngheinewydd, Ceredigion. Yn 1938 aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, gan raddio mewn economeg a gwleidyddiaeth, ac aeth ymlaen i Brifysgol Lerpwl, lle cyflawnodd radd Meistr mewn Celteg.[1]
Roedd yn aelod o Blaid Cymru: yn ystod yr Ail Ryfel Byd cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol ar sail Cenedlaetholdeb Cymreig a gorchmynnwyd iddo weithio ar y tir. Denodd y gerdd a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946, sef "Yr Amaethwr", sylw gan Thomas Parry, un o feirniad llenyddol mwyaf blaenllaw yn y cyfnod, mai dyma'r gerdd fwyaf technegol ddawnus yn yr hanner canrif ddiwethaf. Mae dau gwpled o'r awdl, bellach, yn epigramau poblogaidd iawn:
Y gŵr a arddo'r gweryd
A heuo faes - gwyn ei fyd.
Roedd y gerdd wedi'i modelu ar amaethwr o ardal Cwm Cynllwyd, ym Mynyddoedd y Berwyn, a sgwennodd amdano:
Caled oedd fel clwydi og
A mwyn fel gofer mawnog.
Fel y nodwyd, roedd Bowen yn aelod o Blaid Cymru, a bu'n ymgeisydd yn sedd ddiogel Llafur yn Wrecsam, lle roedd yn athro, yn etholiad cyffredinol 1950.
Bu'n Arolygydd Ysgolion rhwng 1961 a 1975, gan fyw ym Mwlch Llyn Myngul (Tal-y-llyn). Roedd e'n frawd i'r bardd y diweddar Euros Bowen, yn ŵr i Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr ac yn daid i'r canwr Gwilym Bowen Rhys.
Yn 1977 fe'i penodwyd yn olygydd Y Faner a'r flwyddyn dilynol, yn 1978 yn Archdderwydd, tan 1981.
Ddiwedd ei oes, ymgartrefodd yng Nghaernarfon, Gwynedd. Sgwennodd fywgraffiad amdano'i hun o'r enw O Groth y Ddaear (Gwasg Gwynedd; 1993).
Cerddi
[golygu | golygu cod]- Awdl Foliant i Amaethwr
- Cân y Ddaear
- Cân yr Angylion
- T. Gwynn Jones (Y Bardd Celtaidd)
- Cwm Llynor
- Y Drewgoed
- Cywydd y Coroni
- Yr Aran
- Prynhawnddydd
- Dr. Gwenan Jones
- Teyrnged i Gwyndaf
- Cyfarch Bro Myrddin
- Ar Doriad Gwawr
- Branwen
- a llawer o gerddi eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ independent.co.uk; Teitl: Geraint Bowen: Archdruid of Wales who campaigned against nuclear dumping and championed Welsh-language television; adalwyd 10 Medi 2025.