Zonia Bowen

Oddi ar Wicipedia
Zonia Bowen
GanwydZonia North Edit this on Wikidata
23 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Ormesby St Margaret with Scratby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
PerthnasauGwilym Bowen Rhys Edit this on Wikidata

Awdures a rhydd-feddylwraig yw Zonia Margarita Bowen (née North; ganed 23 Ebrill 1926 yn Ormesby St. Margaret, Norfolk, Lloegr). Sefydlodd y mudiad Merched y Wawr yn 1967, gyda chymorth Sulwen Davies a chriw o ferched Sefydliad y Merched o'r Parc, y Bala. Er bod rhan fwyaf o ddigwyddiadau Sefydliad y Merched yn yr ardaloedd yma yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd y sefydliad yn cydnabod y Gymraeg yn eu dogfennau ysgrifenedig a'u nwyddau.[1]

Astudiodd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor lle sylweddolodd fod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg"; geilw ei hun yn 'rhydd-feddylwraig' (free-thinker) yn hytrach nag 'anffydwraig' neu 'ddyneiddwraig'. Bu'n briod â'r Prifardd Geraint Bowen. Roedd ei gŵr yn Archdderwydd o 1978 -1981 ac ef rhoddodd yr enw i Fudiad Merched y Wawr.

Yn wreiddiol o Heckmondwike, Swydd Efrog, bu'n byw am flynyddoedd ger Llyn Mwyngil, ac mae bellach yn byw yng Nghaeathro ger Caernarfon. Yn 2015 cyhoeddodd hunangofiant, lle mae hi'n sôn am sefydlu Merched y Wawr,[2] a pham yr ymddiswyddodd fel Llywydd wedi deng mlynedd fel swyddog o'r mudiad. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad â chrefydd na gwleidyddiaeth "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" a derbyniwyd hynny gan aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Disgrifiwyd y mudiad o'r cychwyn fel 'mudiad seciwlar'.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd pedwar o blant i Zonia a Geraint sef Rhys, Nia, Siân a Steffan. Ffurfiodd tri o'i hwyrion Y Bandana, prif grwp roc Y Selar yn 2017 ac mae cerddoriaeth yn gryf yng ngwaed y teulu gan bod Gwilym Bowen Rhys hefyd mewn grŵp gwerin poblogaidd o'r enw Plu gyda'i chwiorydd Elan a Marged.[1][1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ymhlith ei llyfrau y mae:

  • Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
  • Traed ar y ddaear; CAA, 1995
  • Yec'hed Mat - Iechyd Da! Cyhoeddwyd gan Gwasg y Lolfa, Rhagfyr 1980
  • Y dyddiau cynnar; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
  • Llydaweg i'r Cymro; Llyfrau'r Faner, 1977
  • Merched y Wawr; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
  2. Gwefan Cymru Fyw, y BBC; adalwyd 5 Chwefror 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]