Llyn Mwyngil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Mwyngil
Llyn Talyllyn
Tal y llyn lake.jpg
I gyfeiriad y bwlch
Lleoliad Gogledd Cymru
Cyfesurynnau 52°40′21″N 3°53′51″W / 52.67250°N 3.89744°W / 52.67250; -3.89744Cyfesurynnau: 52°40′21″N 3°53′51″W / 52.67250°N 3.89744°W / 52.67250; -3.89744
Math Llyn naturiol
Prif afon Afon Dysynni
Arwynebedd 220 acer (89 ha)[1]
Dyfnder cyfartalog 3 m (9.8 ft)
Ffynhonnell [1]

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Mwyngil. Fe'i gelwir weithiau yn Llyn Tal-y-llyn ar sail enw'r plwyf a'r anheddiad sydd nesaf at y llyn (er bod y rheini, wrth gwrs, wedi eu henwi ar ôl y llyn yntau). Mae ffurfiau amgen yn y Gymraeg yn cynnwys Llyn Myngul.[2] Mae'n debyg fod Myngul yn tarddu o mŵn ('gwddf') a cul.[3]

Lleolir y llyn wrth droed llethrau deheuol Cadair Idris ym Meirionnydd ac mae Afon Dysynni yn llifo trwy'r llyn. Roedd yn rhan o gwmwd Ystumanner yn yr Oesoedd Canol. Mae'r ffordd B4405 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, heb fod ymhell o'i chyffordd gyda'r briffordd A487; gellir gweld y llyn o'r A487. Ar lan ogleddol y llyn, mae llwybr cyhoeddus ac hen reithordy (gwesty'n awr).

Mae pentref bychan Tal-y-llyn ar ochr dde-orllewinol y llyn wedi rhoi ei enw i'r plwyf ac i Reilffordd Talyllyn, er mai dim ond i Abergynolwyn y mae'r rheilffordd yn cyrraedd. Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn.

Eglwys y Santes Fair[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Eglwys y Santes Fair, Llyn Mwyngil

Un o'r ychydig adeiladau, ar wahân i'r gwesty, yng nghalon y pentref yw Eglwys y Santes Fair, sy'n dyddio i ganrif 12, gydag olion cynharach. Mae'r eglwys wedi'i chynllunio'n debyg iawn i eglwys gyfagos arall, sef Eglwys Sant Mihangel a leolir yng nghanol pentref bychan Llanfihangel-y-pennant. Oherwydd ei nodweddion hynafol, fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 (rhif cofrestriad 4762) yn Gradd II*.[4] Mae'n bosib bod rhai o'r waliau wedi'u codi yng nghanrif 6 neu 7.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

panorama

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "WalesDirectory". http://www.walesdirectory.co.uk/Lakes/Tal_y_Llyn.htm.
  2. Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).
  3. Melville Richards, 'The Names of Welsh Lakes', yn D. P. Blok (gol.), Proceedings of the Eighth International Congress of Onomastic Studies (The Hague & Paris: Mouton & Co., 1976), t. 410.
  4. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Mai 2016.
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato