Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-pennant
Eglwys Sant Mihangel | |
---|---|
![]() | |
Lleoliad | Ger Tywyn, Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cristnogaeth | Yr Eglwys yng Nghymru |
Hanes | |
Hen enw | Llanfihangel |
Cysegrwyd i | Sant Mihangel |
Pensaerniaeth | |
Dynodiad (etifeddiaeth) | Gradd II* |
Dynodiad | 17 Mehefin 1966 |
Pensaerniaeth | Eglwys |
Cwbwlhawyd | Canrif 12 |
Manylion | |
Defnydd | Carreg, trawstiau derw a tho llechen |
Saif Eglwys Sant Mihangel ym mhentref bychan Llanfihangel-y-pennant rhwng cartref Mari Jones a Chastell y Bere yn Nyffryn Dysynni, ger Tywyn, Gwynedd. Mae'r eglwys hynafol hon yn dyddio i ganrif 12, er bod y llan o'i chwmpas yn llawer hŷn. Enw'r plwyf yw Bro Ystumanner.[1]
Fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 yn Radd II*, a hynny oherwydd ei hoed a nodweddion o'r Oesoedd Canol, fel y fedyddfaen, nenfwd a'r rhan fwyaf o'i muriau. Yng nghanrif 15 codwyd estyniad ar ochr ogleddol yr eglwys: capel bychan; yno, yn 2016 roedd arddangosfa o ddogfennau'n ymwneud â Mari Jones. Ceir ffenestr liw o 1869 sy'n darlunio seintiau Mihangel a Gabriel o bobty Crist y tu ôl i'r allor.[2]
Credir fod y fedyddfaen yn dyddio o ganrif 12 ac iddi ddod o Gastell y Bere; y tu allan i'r brif ffenestr, ceir bedd, gyda'r union gerrig crwn, tebyg i golofnau.
Cofrestrwyd wal yr eglwys ar wahân, ar 4 Hydref 2000, Gradd: II (cyfeirnod 23212), oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol. credir ei bod yn llawer hȳn na'r eglwys, ac efallai'n perthyn i'r Eglwys Geltaidd.[3] Mae'n debyg mai chlawdd a ffos fyddai yma'n wreiddiol. Mae'n 1.5 metr o uchder, ar gyfartaledd ac yn 65 cm (dwy droedfedd) o drwch.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ [https://web.archive.org/web/20160314093039/http://www.churchinwales.org.uk/structure/places/churches/?id=2090 Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback. Gwefan yr Eglwys yng Nghymru]; adalwyd 11 Mai 2016.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 11 Mai 2016
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 11 Mai 2016