Eglwys y Santes Fair, Llyn Mwyngil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys y Santes Fair
St Marys Church Talyllyn, Gwynedd IMG 3325 -1.jpg
Math eglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.667°N 3.90813°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Y Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Eglwys y Santes Fair
Eglwys y Santes Fair; Church of St Mary on the shores of Llyn Talyllyn lake; Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Wales 26.jpg
Lleoliad Abergynolwyn, Tywyn, Gwynedd
Gwlad Cymru
Cristnogaeth Yr Eglwys yng Nghymru
Hanes
Hen enw Llanfihangel
Cysegrwyd i Y Forwyn Fair
Pensaerniaeth
Dynodiad (etifeddiaeth) Gradd II*
Dynodiad 17 Mehefin 1966
Pensaerniaeth Eglwys
Cwbwlhawyd Canrif 12
Manylion
Defnydd Carreg, trawstiau derw a tho llechen

Eglwys Ganoloesol ydy Eglwys y Santes Fair (neu Eglwys Fair) a leolir ar lan ddeheuol Llyn Mwyngil (neu 'Talyllyn'), yng Nghymuned Llanfihangel-y-pennant (cyfeirnod OS: SH7106209407). Mae un o'i ffenestri, y fedyddfaen, y gangell a chanol yr eglwys o ganrif 12, gyda'r rhan fwyaf o weddill adeiledd yr eglwys (yr ochr ddwyreiniol) wedi'u codi ychydig wedyn. Mae'r eglwys wedi'i chynllunio'n debyg iawn i eglwys gyfagos arall, sef Eglwys Sant Mihangel a leolir yng nghanol pentref bychan Llanfihangel-y-pennant. Oherwydd ei nodweddion hynafol, fe'i chofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 (rhif cofrestriad 4762) yn Gradd II*.[1] Mae'n boib fod rhai o'r waliau wedi'u codi yng nghanrif 6 neu 7.

Mae'r fynwent yn gromliniog (neu'n ofal) sy'n awgrymu fod yma eglwys llawer hŷn na chanrif 12, ac o bosib yn tarddu'n ôl i'r Eglwys Geltaidd a chyn hynny. Adnewyddwyd yr eglwys ungellog hon gryn dipyn yn 1876, pan ddymchwelwyd y galeri, ond ar y cyfan cadwyd y rhan fwyaf o'r nodweddion canolesol. Gwnaed y gloch yn 1583.[2]

Ychydig yn nes at ochr y llyn, yr ochr arall i'r gwesty, saif y Rheithordy, a godwyd yn y 1800au. Dywedir i'r prif ddrws a'r gat neu'r porth gael eu gosod ar y rhan uchaf o'r bryncyn (nid ochr y llyn) er mwyn i'r eglwyswyr fod yn sych pan fo'r llyn yn gorlifo.[3]

Gofebion[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wal y dwyrain ceir ffenestr liw sy'n darlunio dameg y Samariad Trugarog; cofier fod y dref agosaf gryn bellter o'r llecyn anghysbell hwn. Ceir nifer o gofebau ar y waliau gan gynnwys rhai i: William Wynn Kirkby, m.1864 yn Ne Cymru Newydd, Sarah Kirkby o Maes-y-neuadd, m.1877, Mary Jones, Ty'n-cornel, clochydd m.1924, croes efydd ar lechen i gofio am John Jones, Maes-y-pandy, m.1918 a fu farw ar linell y Siegfriedstellung yn yr Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf a llechen i gofio am Owen Owen, Ty'n-cornel. m.1851 ar long y 'Bathurst' ac Ann Owen, m.1828; ceir hefyd lechen i gofio am Humphrey Owen, Dolfaenog, m.1852.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Mai 2016.
  2. Beverley Smith, J, Beverley Smith, Ll, 2001, History of Merioneth II, 366-7, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, 2000, Historic churches of Gwynedd: gazetteer, 391.
  3. Gwefan Coflein; adalwyd 12 Mai 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: