Y Nod Cyfrin
Gwedd
Arwydd neu symbol Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yw'r Nod Cyfrin neu Nod Pelydr Goleuni (/|\). Cafodd ei ddyfeisio gan Iolo Morganwg i gynrychioli "Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd". Gelwir y rhain yn dri phaladr yr haul neu "lygad goleuni". Yn ôl y bardd Talhaiarn, fodd bynnag, nid oeddent nemor "traed brain".[1]
Defnyddiwyd yn gyntaf gan yr Orsedd ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd ym 1833. Ers y 1950au penderfynwyd fod yn rhaid cynnwys symbol y Nod Cyfrin ar bob Cadair a Choron genedlaethol.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 654 [NOD CYFRIN, Y].
- ↑ Y Nod Cyfrin. Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2014.