Douarnenez
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,163 |
Pennaeth llywodraeth | Philippe Paul, François Cadic |
Gefeilldref/i | Murmansk |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 24.94 km² |
Uwch y môr | 61 metr, 0 metr, 86 metr |
Yn ffinio gyda | Ar Yeuc'h, Kerlaz, Pouldregad, Poullann |
Cyfesurynnau | 48.0922°N 4.3303°W |
Cod post | 29100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Douarnenez |
Pennaeth y Llywodraeth | Philippe Paul, François Cadic |
Mae Douarnenez (Ffrangeg: Douarnenez) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Le Juch, Kerlaz, Pouldregad, Poullan-sur-Mer ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,163 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Porthladd yw Douarnenez. Saif ar Fae Douarnenez, 25 km (15 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Kemper.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Diwidiant
[golygu | golygu cod]Pysgota yw'r prif ddiwydiant, ac mae ffatrioedd i roi pysgod mewn caniau yma, ond erbyn hyn mae twristiaeth wedi dod yn bwysig hefyd.
Chwedloniaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12g.
Iaith Llydaweg
[golygu | golygu cod]Ymunodd Douarnenez a chynllun ieithyddol Ya d'ar Brezhoneg ar 22 Rhagfyr, 2004. Yn 2008 bu 7.97% o blant ysgol gynradd yn mynychu ysgolion dwyieithog[1]
Cysylltiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Douarnenez wedi'i gefeillio â:
Diwilliant
[golygu | golygu cod]Canodd Meic Stevens y gitarydd o Solfa gân am y dref.
Ers diwedd y 20g, bu-bu adfywiad yn y diwylliant Llydewig. Mae gan y gymuned Bagad llwyddiannus. Mae Gŵyl Ffilm Douarnenez wedi ei ysbrydoli gan y diwygiad Llydewig, ac yn arbenigo mewn ffilm ieithoedd llai
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cymunedau Penn-ar-Bed
- Rhestr trefi a phentrefi Llydaw
- Trefi o Gymru wedi eu gefeillio a threfi o Lydaw
- Cymdeithas Cymru-Llydaw
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Ffrangeg) Ofis ar Brezhoneg: Enseignement bilingue
- ↑ "Администрация города Мурманска - официальный сайт :: Структурные подразделения". Cyrchwyd 26 May 2016.