Stourm ar Brezhoneg

Oddi ar Wicipedia
Stourm ar Brezhoneg
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMawrth 1984 Edit this on Wikidata

Mudiad iaith yn Llydaw yw Stourm ar Brezhoneg ('Ymdrech dros y Llydaweg') sy'n ymgyrchu dros ennill statws swyddogol a pharch i'r iaith Lydaweg yn Llydaw.

Prif feysydd ymgyrchu'r mudiad yw:

  • Arwyddion dwyieithog : Mae'r mudiad yn pwyso ar yr awdurdodau i ddefnyddio Llydaweg Diweddar cywir ar arwyddion ffordd ac arwyddion swyddogol eraill. Mae ei weithrediadau yn cynnwys paentio dros arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg, gan gymryd ei ysbrydoliaeth o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghymru. Erbyn heddiw mae sawl tref yn Llydaw yn defnyddio arwyddion dwyieithog, yn cynnwys Brest, Quimper, Carhaix, Lorient a Lanester. Ceir arwyddion dwyieithog yn départements Finistère, Morbihan a rhannau Llydaweg Côtes-d'Armor a Loire-Atlantique yn ogystal.
  • Cyfryngau : Gwrthdystio yn erbyn yr esgeulusdod o'r iaith Lydaweg ar y teledu; ymgyrchu i sefydlu sianel teledu Llydaweg (fel S4C yng Nghymru) a gwrthod talu trwyddedau teledu gan fod cyn lleied o'r arian a godir felly yn mynd tuag at wasanaethau Llydaweg.
  • Meysydd eraill : mynnu siarad Llydaweg yn unig yn y llysoedd, boicotio'r cyfrifiad gwladol am nad ydyw ar gael yn Llydaweg, sgwennu sieciau yn Llydaweg, galw am gael tocynnau o bob math yn Llydaweg.

Cynorthwyir y mudiad gan Skoazell Vreizh (Cymorth y Llydaweg), sy'n gyn-aelodau o Skol an Emsav. Mae sawl aelod o Stourm ar Brezhoneg wedi sefyll ei brawf yn y llysoedd am weithredu.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.