Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1870
Jump to navigation
Jump to search
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1870 yn y Rhyl ar 9-12 Awst 1870, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.[1] Nid oedd hon yn Eisteddfod Genedlaethol swyddogol oherwydd trafferthion ariannol y sefydliad hwnnw. Fe'i ddisgrifwyd fel Eisteddfod Gadeiriol a Gwyl Fawr Gerddorol Rhyl.[2]
Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Y Nos". Derbyniwyd amryw o gyfansoddiadau a thraddodwyd y feirniadaeth gan Nicander ar ran ei gyd-feirniaid a Gwalchmai, gan ddatgan fod 'Yr Eryr' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Islwyn. Mae'n ymddangos nad oedd yn bresennol a fe'i gynrychiolwyd gan Iolo Trefaldwyn.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "EISTEDDFODYRHYL - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1870-08-19. Cyrchwyd 2016-08-17.
- ↑ "Advertising - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1870-07-13. Cyrchwyd 2016-08-17.
- ↑ "EISTEDDFODRHYL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1870-08-17. Cyrchwyd 2016-08-17.