Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958
Lleoliad Glyn Ebwy, Blaenau Gwent
Cynhaliwyd 1958
Enillydd y Goron Llewelyn Jones o Lanbadarn
Enillydd y Gadair T. Llew Jones
Paul Robeson ar y llwyfan yn ystod y gymanfa ganu
Enillydd y Goron: Llewelyn Jones o Lanbadarn gyda'r Archdderwydd
Cadeirio T. Llew Jones

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958 yn nhref Glyn Ebwy, Sir Fynwy (Blaenau Gwent bellach). Er bod y rheol Gymraeg wedi'i sefydlu, bu eithriadau yn yr Eisteddfod hon; fe siaradodd Aneurin Bevan, yr aelod seneddol lleol o 1929 tan 1960, yn y Saesneg, gan na throsglwyddodd ei rieni'r iaith Gymraeg iddo, a oedd yn arferiad cyffredin y dyddiau hynny. Disgrifiodd Bevan yr Eisteddfod fel "conglfaen gwareiddiad", ac anogodd beidio â chyfeirio at "Gymru a Mynwy" mwyach gan mai nodweddion Cymreig oedd i bobl Mynwy.

Bu cryn ddadlau yn y wasg ynglŷn â'r rheol Gymraeg; roedd y Western Mail yn dadlau am lai o Gymraeg yn yr Eisteddfod, er mwyn y di-Gymraeg, ond yr oedd eraill yn poeni y byddai'r Eisteddfod yn dychwelyd i fod yn ddwyieithog unwaith yn rhagor. Roedd y rheol Gymraeg yn golygu bod cannoedd o bobl yng Nglyn Ebwy wedi eu diddori yn y Gymraeg ac yn awyddus i'w dysgu.

T. Llew Jones oedd enillydd y gadair, bardd ac awdur nifer fawr o lyfrau darllen i blant. Testun yr awdl oedd Caerllion-ar-Wysg. Yn yr awdl, mae tad-cu yn poeni bod ei ŵyr yn cyfeillachu gyda'r Rhufeiniaid, gan ddysgu eu hiaith a'u diwylliant ac yn troi'i gefn ar Gymru a'r Gymraeg. Roedd y neges hon yn hynod o berthnasol i'r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru ym 1958 a hyd yn oed heddiw.

Bu dadleuon eraill hefyd yn Baner ac Amserau Cymru; beirniadodd R. Gerallt Jones y beirniaid am eu dibyniaeth ar chwaeth bersonol a'u safon isel, a beirniadodd Kate Roberts yr Eisteddfod am beidio â thalu sylw teilwng i'r nofel a diffyg urddas seremoni'r fedal ryddiaith.

Ymwelodd Paul Robeson â'r Eisteddfod hon.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Caerllion-ar-Wysg - T. Llew Jones
Y Goron Cymod - Llewelyn Jones
Y Fedal Ryddiaith Ei Ffanffer ei Hun E. Cynolwyn Pugh

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]