Albert Evans-Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albert Evans-Jones
Cynan 1956 Aberdar.jpg
Ganwyd 1895 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw 1970 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE Edit this on Wikidata
Cynan yn yfed o'r Corn Hirlas yn Eisteddfod Aberystwyth, 1952; llun: o gasgliad Geoff Charles, LlGC.
Geiriau gan Cynan ar blac o lechen ar wal Ffynnon Felin Fach.
Bedd Cynan ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Ynys Môn.

Bardd, dramodydd ac eisteddfodwr o fri oedd Albert Evans-Jones, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cynan (14 Ebrill 189526 Ionawr 1970).

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Cynan ei eni ym Mhwllheli, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (née Evans) roedd ei dad yn berchennog bwyty yn y dre. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle graddiodd yn 1916[1]

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl graddio ymunodd Cynan â Chwmni Cymreig y Corfflu Meddygol gan wasanaethu yn Salonica a Ffrainc , yn wreiddiol fel dyn ambiwlans ac yna fel caplan y cwmni.[2] Cafodd ei brofiadau o ryfel effaith dwys ar ei ganu, i'r fath raddau fod Alan Llwyd yn honni mai Cynan, nid Hedd Wyn yw prif fardd rhyfel Cymru o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Canodd Hedd Wyn ei gerddi sydd yn ymwneud â'r rhyfel cyn iddo ymrestru, a bu farw yn y gyflafan cyn iddo gael cyfle i ganu am ei brofiadau fel milwr, ond gan Gynan y ceir y disgrifiadau mwyaf cignoeth o erchyllterau'r Rhyfel, ac effaith rhyfela ar gorff yn ogystal ag ysbryd dyn.[3]

O Dduw, a rhaid im gofio sawr
Y fan lle rhedai'r llygod mawr -
A bysedd glas y pethau mud
A glic eu gynnau bron i gyd?

Gyrfa ar ôl y Rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi dod o'r fyddin aeth Cynan i Goleg y Bala i hyfforddi ar gyfer weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef ym Mhenmaenmawr Sir Gaernarfon ym 1920 lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog hyd 1931. Rhoddodd y gorau i'w alwad ym 1931 a chafodd ei benodi'n diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn arbenigo mewn Drama a Llenyddiaeth Cymru. Er iddo roi'r gorau i'r weinidogaeth parhaodd Cynan i bregethu yn rheolaidd, ac roedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ym mhulpudau anghydffurfiol Cymru.

Trwy gydol ei gyfnod yn gweithio yn y Brifysgol bu Cynan yn byw ym Mhorthaethwy Sir Fôn, ond yn ei gerdd fwyaf poblogaidd mae o'n mynegi dymuniad i ymddeol i Aberdaron:[4]

Pan fwyf yn hen a pharchus
Ac arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen y ddôr.
"Ond creigiau Aberdaron
A thonnau Gwyllt y Môr

Byd y Ddrama[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â bod yn un o feirdd a llenorion pwysicaf Cymru ei gyfnod, gwnaed cyfraniad enfawr i fyd y ddrama gan Cynan hefyd. Ysgrifennodd dwy ddrama hir: Hywel Harris a enillodd prif wobr yr Eisteddfod ar gyfer drama ym 1931. Ym 1957 fe'i comisiynwyd i ysgrifennu drama ar gyfer ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol sef Absalom Fy Mab. Addasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, Lili'r Grog ( John Masefield ), a Hen ŵr y mynydd ( Norman Nicholson ), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen ym 1949, a Cynan ei hun yn gyfarwyddwr.

Sensor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1931 fe'i penodwyd yn ddarllenydd dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen er mwyn sicrhau bod dramâu Cymraeg yn gadw at ofynion y deddfau sensoriaeth, parhaodd yn y swydd nes diddymu'r deddfau sensoriaeth ym 1968.[5] Roedd yn cael ei ystyried yn sensor rhyddfrydol, er enghraifft fe wnaeth ganiatáu perfformio drama James Kitchener Davies Cwm y Glo, er iddo gael ei feirniadu am fod mor fasweddus fel na ddylid byth mo'i pherfformio pan enillodd wobr drama Eisteddfod Castell Nedd ym 1934.[6]

Fe wnaeth Cynan lawer o ymddangosiadau ar y radio a'r teledu ac ef oedd testun y rhaglen deledu lliw a darlledwyd cyntaf yn yr Iaith Cymraeg Llanc o Lŷn.[7]

Yr Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cynan yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad enfawr i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n Archdderwydd ddwywaith, yr unig berson i gael ei ethol i'r swydd am ail dymor. Ei ddau dymor oedd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966. Roedd yn Gofiadur yr Orsedd yn 1935, ac yn gyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937. Ef oedd yr Archdderwydd cyntaf i dderbyn yn gyhoeddus mai dyfais Iolo Morgannwg oedd yr orsedd ac nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau â derwyddiaeth hynafol. Drwy wneud hyn fe leihaodd y rhwyg a oedd yn bodoli rhwng yr Eisteddfod a rhai yn y byd eglwysig ac academaidd.

Cynan oedd yn gyfrifol am gynllunio seremonïau modern Coroni a Chadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod fel y maent yn cael eu perfformio heddiw, gan greu seremonïau, a oedd, yn ei dyb ef yn adlewyrchu ysbryd y genedl.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 gyda'r gerdd "Mab y Bwthyn", ac eilwaith yn yr Wyddgrug 1923 gyda "Yr Ynys Unig". Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pwl 1924 am ei gerdd "I'r Duw nid Adwaenir", ond nid awdl ar y pedwar mesur ar hugain traddodiadol ydoedd; yn hytrach, mesur y tri-thrawiad, sef mesur a ddyfeiswyd gan brydyddion y canu rhydd (1550 o leia).[8] Enillodd drydedd coron yn Eisteddfod Bangor yn 1931 am ei gerdd "Y Dyrfa" sydd yn trafod gêm rygbi.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfarnwyd gradd D. Lit er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1961.

Dyfarnwyd iddo ryddfraint bwrdeistref Pwllheli ym 1963.

Cafodd y CBE ym 1949, a'i urddo'n farchog yn 1969 (Fel Syr Cynan Evans Jones yn hytrach na Syr Albert Evans Jones.)

Priodas Marwolaeth Claddedigaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Cynan yn briod ddwywaith: yn gyntaf i Ellen J. Jones o Bwllheli ym 1921 a chawsant un mab ac un ferch, bu Ellen farw yn 1962. Ym 1963 priododd Menna Meirion Jones o'r Fali, Ynys Môn.[9] Bu farw Cynan ar 26 Ionawr 1970 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Ynys Môn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cynan, Absalom Fy Mab (Lerpwl, 1957).
  • Cynan (gol. y gyfres), Tegwyn Jones, Adlais o’r hen wrthryfel, (Llanrwst, 1999).
  • J. T. Williams (deth.), Cynan gyda atgofion George M. Ll. Davies, Yr Ail Bistyll (Caernarfon, 1922).
  • Cynan, ‘Ail Gafodd-o’, Lleufer, cyfrol 11, rhif 3 (Hydref 1955), tt. 107–118.
  • Cynan, ‘Atgofion Cynan am Hedd Wyn’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), tt. 149, 170.
  • Cynan, ‘Atgyfodi Twm Nant’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 1 (Haf 1968), tt. 31–33.
  • Cynan, ‘Bwgan y farddoniaeth “anfoesol”’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 10 (Awst 1931), t. 11.
  • Cynan, Caniadau Cynan (Llundain, 1927).
  • Cynan, Cerddi Cynan (Lerpwl, 1959).
  • Cynan, ‘Cydnabod’, Lleufer, cyfrol 12, rhif 3 (Hydref 1956), tt. 107–112.
  • Cynan, Cynan: Llyfr lliwio i ddathlu canmlwyddiant geni un o brif feirdd Cymru (Pwllheli, 1995).
  • Cynan, ‘Cynhyrchu Pasiant Cenedlaethol y Cadeirio a’r Coroni’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 3 (Haf 1969), tt. 11–14.
  • Cynan, J. Williams Hughes, J. Ellis Williams, D. Tecwyn Evans, G. Hartwell Jones, ‘Y Ddrama a’r Pulpud’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 4 (Chwefror 1931), tt. 20 a 22.
  • Cynan, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (1971), tt. 25–26.
  • Cynan, ‘Dysgu Barddoni’, Lleufer, cyfrol 18, rhif 3 (Hydref 1962), tt. 107–114.
  • Cynan, ‘Englyn clasur Gruffydd ap Siôn Phylip uwch cist ei dad’, Lleufer, cyfrol 20, rhif 2 (Haf 1964) tt. 71–72.
  • Cynan, Ffarwel Weledig (Lerpwl, 1946).
  • Cynan, Hywel Harris: Drama Bedair Act (Wrecsam, 1932).
  • Cynan, John Huws Drws Nesa (Aberystwyth, 1950). [Cyfaddasiad o’r stori ‘Mr Sampson’ gan Charles Lee]
  • Cynan, ‘Tir Ango’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 10 (Awst, 1934), tt. 237–240.
  • Cynan, Lili’r Grog (Aberystwyth, 1936). [Cyfaddasiad o John Mansfield, ‘Good Friday’.]
  • Cynan, Mr. Smart (Aberystwyth, 1950).
  • Cynan, ‘O Berthynas i’r Eisteddfod’, Lleufer, cyfrol 7, rhif 4 (Gaeaf 1951), tt. 162–168.
  • Cynan, Hen Ŵr y Mynydd (Llandybïe, 1949).
  • Cynan, ‘Pan oeddwn i’n fachgen’, Lleufer, cyfrol 6, rhif 4 (Gaeaf 1950), tt. 161–168.
  • Cynan, Pasiant y Newyddion Da (Caernarfon, 1929).
  • Cynan, Y Sêr yn eu Graddau (Aberystwyth, 1950). [Drama un act]
  • Cynan, ‘Stribedu Ffilm’, Lleufer, cyfrol 14, rhif 3 (Hydref 1958), tt. 129–30.
  • Cynan, ‘Tad Beirdd Eryri: Dafydd Tomos (“Dafydd Ddu Eryri”) 1759–1822’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion (1969, Rhan 1)/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1969, Part 1) (Llundain, 1970), tt. 7–23
  • Cynan, Y Tannau Coll (Caernarfon, 1922).
  • Cynan, Telyn y Nos (Caerdydd, 1921).
  • Cynan, ‘Fel hyn rwy’n ei gweld hi’, Barddas, rhif 284 (Awst/Medi/Hydref, 2005), tt. 60–61.
  • Cynan, ‘Y Goeden Eirin’, Lleufer, cyfrol 3, rhif 2 (Haf 1947), tt. 64–68.
  • Thomas Parry, Hanes yr Eisteddfod, a Cynan, Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd Heddiw, (Lerpwl, D.D). [1960au]

Amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. T. Jones, ‘Oedd Madam Gruffydd yn caru Hywel Harris?’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 11 (Medi 1931), tt. 5–6.
  • Eric Wynne Roberts, ‘Yr actor a’r cynhyrchydd’, Llwyfan (Bangor), Cyf. 5 ([ca. 1971]), tt. 22–23.
  • (Gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995).
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Llanc o Dref Pwllheli’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 55–74.
  • Tilsi, ‘Cynan yr Archdderwydd’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 75–78.
  • Wilbert Lloyd Roberts, ‘Dyn drama a theatr ac actio’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 80–90.
  • Dilwyn Cemais, ‘Cynan: Pendefig Pasiant’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 91–95.
  • W. R. P. George, ‘Ffarwel Weledig’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 96–113.
  • James Nicholas, ‘Cynan y Cofiadur’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 114–120.
  • Huw Tegai, ‘Cynan yr Athro Dosbarth’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 121–124.
  • R. Wallis Evans, ‘Cynan y Sensor, 1931–1968’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 125–134.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Beirniad’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 135–141.
  • R. Bryn Williams, ‘Rhai Atgofion am Cynan’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 142–145.
  • T. Gwynne Jones, ‘Ambell atgof’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 147–151.
  • T. W. Thomas, ‘[Cynan] Y Cyfaill’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 152–56.
  • Richard Jones, ‘Atgofion am Cynan’, yn (gol.) Ifor Rees, Dŵr o Ffynnon Felin Bach: cyfrol i goffau canmlwyddiant geni Cynan (Dinbych, 1995), tt. 160–163.
  • Richard Jones, ‘Yr Athro’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 16–18.
  • Alun Llywelyn-Williams, ‘Y Bardd’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 12–14.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘Y Beirniad’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca 1971), tt. 28–29 a 32.
  • (Gol.) Ifor Rees, Bro a Bywyd Syr Cynan Evans-Jones, 1895–1970 (Caerdydd, 1982).
  • Huw Williams, ‘Cerdd yn y cof: sôn, am gerdd ac athro arbennig’, Lleufer Newydd 3 (1993), t. 24.
  • William Morris, ‘Y Cerddi Eisteddfodol’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 7–9.
  • Selwyn Iolen (Selwyn Griffith), ‘Colofn yr Archdderwydd’, Yr Enfys (Gwanwyn 2007), t. 25.
  • Gwyndaf, ‘Cynan a Gorsedd y Beirdd’, Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 2–4.
  • J. T. Jones (John Tudur), ‘Cynan a’i waith’, Taliesin, cyfrol 52 (1985), tt. 90–97.
  • Robyn Lewis, ‘Cynan: “un o hogia’r dre”’, Barn, rhif 388 (Mai 1995), tt. 26–27.
  • Bedwyr Lewis Jones, Cynan: Y llanc o dref Pwllheli (Pwllheli, 1981).
  • Alan Llwyd, ‘Golygyddol’, Barddas, rhif 251, (Mawrth/Ebrill, 1999), tt. 4–12.
  • Ernest Roberts, ‘Y Gweinyddwr’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), t. 5.
  • Huw Davies, ‘Yr Hogyn o Bwllheli’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 10–11.
  • Rhys Puw, ‘Perfformiad cyntaf Hywel Harris’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), t. 153.
  • Bedwyr Lewis Jones, ‘P’run oedd capel bach gwyngalchog Cynan?’, Barddas, rhif 120 (Ebrill 1987), tt. 1–2.
  • Gerwyn Wiliams, ‘Rhamant Realaidd Cynan’, Taliesin, rhif 76 (Mawrth 1992), tt. 105–112.
  • Dafydd Owen, ‘Tair Cerdd Cynan (OBWV rhifau 290, 291, 292)’, Barn, rhif 236 (Tachwedd 1991), tt. 23–24.
  • Wyn Hobson, ‘Un llinell, un prynhawn’, Barddas, rhif 207/208, (Gorffennaf/Awst, 1994), tt. 39–43.
  • Gilbert Ruddock, ‘Yr Ysgol Farddol’, Barddas, rhif 110 (Mehefin, 1986), tt. 11–12.
  • Dafydd Owen, Cynan (Cyfres Writers of Wales, 1979)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein
  2. Breuddwyd Cymro Mewn Dillad Benthyg RR Williams Gwasg y Brython 1964
  3. Gwaedd y Bechgyn; Gol Alan Llwyd & Elwyn Edwards Cyhoeddiadau Barddas 1989
  4. Hoff Gerddi Cymru, Gol:Di-enw, Gwasg Gomer 2000
  5. Williams, Gerwyn (Hydref 2013). Y Sgets a Gadd ei Gwrthod, Rhifyn 609. Barn
  6. [1] Ail godi nyth cacwn
  7. Cynan
  8. y tri-thrawiad&c=0&s=0&xywh=29%2C273%2C3630%2C2246 Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol;] adalwyd 24 Mai 2017.
  9. Y Bywgraffiadur ar lein "JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS" http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-JONE-EVA-1895.html?query=Cynan&field=content
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Albert Evans-Jones (Cynan) ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.