Ynys Tysilio
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Ynys Dysilio)
| Math | ynys |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.011 km² |
| Gerllaw | Môr Iwerddon |
| Cyfesurynnau | 53.2228°N 4.1713°W |
| Hyd | 0.136 cilometr |
![]() | |
Mae Ynys Tysilio (neu Ynys Dysilio) yn ynys fechan yn Afon Menai, ger Porthaethwy.[1]
Fe'i cysyllir â thir mawr Ynys Môn gan sarn a orchuddir weithiau pan fo'r llanw'n uchel iawn.
Enwir yr ynys ar ôl Tysilio Sant (fl. 6g). Yn ôl traddodiad roedd gan y sant gell feudwy ar yr ynys. Saif eglwys ar y safle heddiw.
Mae nifer o enwogion wedi eu claddu yn y fynwent, yn cynnwys yr hanesydd John Edward Lloyd, y pensaer H. Harold Hughes a'r bardd Cynan.
Mae cofeb ryfel restredig gradd II ar yr ynys.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC - Gogledd Orllewin - Eglwys Ynys Tysilio". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-11-15.
