Bob Owen, Croesor
| Bob Owen, Croesor | |
|---|---|
Bob Owen yng nghanol ei lyfrau gyda'i wraig Nel yn 1958. Llun gan Geoff Charles. | |
| Ganwyd | 8 Mai 1885 Llanfrothen |
| Bu farw | 30 Ebrill 1962 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | hanesydd, achrestrydd |
Hynafiaethydd a chasglwr llyfrau o Gymru oedd Bob Owen Croesor OBE (Robert Owen: 8 Mai 1885 – 30 Ebrill 1962).[1] Roedd yn frodor o Lanfrothen yn yr hen Sir Feirionnydd (Gwynedd heddiw), ond treuliodd ran helaeth o'i oes ym mhentref Croesor, wrth droed y Cnicht a'r Moelwynion.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o Groesor oedd Bob Owen. Priododd âg Ellen (Nel) Jones yn 1923. Yn ôl pob sôn treuliodd ei fis mêl yn Aberystwyth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd iddynt un mab a dwy ferch.[2]
Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol, hanes y Cymry yn America ac achyddiaeth Gymreig. Darlithiai i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a daeth yn adnabyddus felly i'r werin. Roedd ei dŷ bychan yng Nghroesor yn enwog am fod mor llawn o lyfrau a phapurau o bob math fel prin y gellid symud yno, yn llythrennol.[2]
Cof
[golygu | golygu cod]Enwyd Cymdeithas Bob Owen, cyhoeddwyr Y Casglwr, ar ei ôl pan gafodd ei sefydlu yn 1976.

Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Gwasg Gwynedd 1977). Cofiant.
- Geraint Jones (gol.), Dyfed Evans yng nghwmni Bob Owen, Croesor (Gwasg Utgorn Cymru, 2007)
- Robin Williams, Y Tri Bob (Dinbych, 1970)
- Robin Williams, Y Tri Bob (recordau Teledisc, Abertawe, 1965) record; https://www.discogs.com/Robin-Williams-Y-Tri-Bob/release/2607912
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Buy tickets – Bob Owen Croesor – English Language Talk by Len Jones – Plas Brondanw". www.tickettailor.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-10.
- 1 2 Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Gwasg Gwynedd 1977).