Cymdeithas Bob Owen

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bob Owen
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cylchgrawn y gymdeithas: Y Casglwr; rhifyn Gwanwyn 2013

Cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig yw Cymdeithas Bob Owen. Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976. Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd a llyfrbryf enwog Bob Owen, Croesor.

Mae'r gymdeithas yn trefnu darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd ag ysgol undydd flynyddol yn y gwanwyn a ffeiriau llyfrau yn y gwanwyn a'r hydref.

Y Casglwr[golygu | golygu cod]

Prif weithgaredd y gymdeithas fodd bynnag yw cyhoeddi'r cylchgrawn Y Casglwr sy'n llawn gwybodaeth am lyfrau prin a diddorol yn y Gymraeg neu'n ymwneud â Chymru yn ogystal ag erthyglau mwy cyffredinol am hanes a diwylliant Cymru. Sefydlwyd y cylchgrawn ym mis Mawrth 1977. Mae ar gael i aelodau o'r gymdeithas yn unig. Mae cyfranwyr diweddar yn cynnwys Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones, golygyddion Geiriadur yr Academi.

Golygydd cyntaf y cylchgrawn oedd John Roberts Williams, a fu'n golygu hyd 1995.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]