Te yn y Grug

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Te yn y Grug  
Te yn y Grug (llyfr).jpg
clawr argraffiad 2009
Awdur Kate Roberts
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Genre(s) Storïau byrion
Cyhoeddwr Gwasg Gee
Dyddiad cyhoeddi 1959
Math o gyfrwng clawr caled
Tudalennau 96
ISBN 9781904554059
Argaeledd mewn print

Casgliad o storiau byrion gan Kate Roberts (1891 - 1985) yw Te yn y Grug (1959). Ymhlith cymeriadau'r casgliad y mae Begw bedair oed, Mair, Winni Ffini Hadog a Sgiatan y gath.

Yn y casgliad hwn o storiau byrion mae Kate Roberts yn agor y drws ar ryfeddodau plentyndod yn seiliedig ar ei phrofiad o dyfy i fyny yn ardal Arfon, Gwynedd.

Manylion cyhoeddi: Gwasg Gee (1959, 1996). Cyfieithwyd i'r Saesneg gan Seren yn 2002. Mae'r gyfrol ar ei nawfed fersiwn, y nawfed argraffiad ers i’r gyfrol ymddangos am y tro cyntaf ym 1959.

Gwnaed y gyfrol yn ffilm gan gwmni "Llun y Felin" a chafodd ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf ym 1997. Enw'r ffilm yw Y Mynydd Grug ac chaiff ei hastudio ar gwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg CBAC.


Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg


Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.