O Gors y Bryniau

Oddi ar Wicipedia

Cyfrol o storïau byrion gan y llenor Kate Roberts yw O Gors y Bryniau. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1925. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Roberts gyhoeddi dan ei henw ei hun (cyhoeddasai ddrama dan y ffugenw 'Margaret Price' yn 1923).

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Ceir naw stori fer yn y gyfrol: 'Y Man Geni', 'Prentisiad Huw', 'Hiraeth', 'Yr Athronydd', 'Newid Byd', 'Y Llythyr', 'Pryfocio', 'Y Wraig Weddw', a 'Henaint'. Merch ifanc 23 oed oedd Kate pan ysgrifennodd y storïau hyn ac mae ffresni a dychymyg ieuenctid yn perthyn iddyn nhw. Maen nhw'n agosach i'r traddodiad gwerinol lleol, i ryw raddau, na'i gwaith mwy caboledig diweddarach. Cyflwynodd yr awdures y gyfrol 'i goffadwriaeth Richard Hughes Williams' (Dic Tryfan), meistr arall ar y stori fer o'r un ardal.

Beirniaid cyfoes[golygu | golygu cod]

  • "Rhaid inni edrych ar y llyfr hwn fel carreg filltir bwysig yn ein twf llenyddol... mae 'O Gors y Bryniau' wedi bwrw holl storïau byrion Cymru hyd yn hyn i'r cysgod." (W. J. Gruffydd yn Y Llenor).
  • "Y mae llyfr fel hyn yn llawn o chwerthin a dagrau, a holl brofiadau bywyd o ran hynny... Dyma awdures sy feistes ar ei chrefft, wrth y safonau gorau. Fel y maent y gwêl hi bethau, ac ni thwyllir moni gan yr olwg ar y wyneb." (T. Gwynn Jones yn Y Darian.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Argraffiadau[golygu | golygu cod]

  • O Gors y Bryniau (Wrecsam, 1925; ail arg. 1926, 3ydd 1932)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Alun T. Lewis, "Crefft y Storïau Byrion" yn, Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969)


Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg