Ceiri Torjussen

Oddi ar Wicipedia
Ceiri Torjussen
Ganwyd1976 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr yw Ceiri Torjussen (ganwyd 1976) sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu yn yr Unol Daleithiau.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Torjussen yng Nghaerdydd, Cymru yn 1976 ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl. Fe aeth i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant[2]. Gan ddangos dawn am gerddoriaeth ers yn ifanc, dechreuodd ganu'r trwmped a'r piano yn wyth mlwydd oed, a dechreuodd gyfansoddi yn fuan wedi hynny. Er y cafodd ei hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol, fe chwaraeodd a chyfansoddodd ar gyfer nifer o fandiau soul, jazz, ffync a disco a dechreuodd gyfansoddi sgôr ar gyfer rhaglenni dogfen teledu tra dal yn yr ysgol uwchradd. Yn ogystal â ystod a cherddoriaeth orllewinol o'r Oesoedd Canol i'r presennol, mae ei ddiddordebau cerddorol yn cynnwys cariad arbennig at jazz, cerddoriaeth electronig a pheth cerddoriaeth an-Orllewinol, yn enwedig Gamelin Indonesia a cherddoriaeth glasurol India - canlyniad saith mis yn dysgu a theithio is gyfandir India yn 1995. Yn dilyn ei deithiau, derbyniodd radd Fagloriaeth mewn Cyfansoddi o Bhrifysgol Efrog, gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, a gradd Meistr gan Brifysgol De Califfornia, Los Angeles.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae Ceiri wedi cyfansoddi sgôr ar gyfer chwe ffilm hyd yma. Yn 2006 dangoswyd y ffilm gyffro 'noir' Undoing am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Los Angeles, a dangoswyd Mentor, oedd yn serennu Rutger Hauer, yng Ngŵyl Ffilm Tribeca.[1] Yn fwy diweddar fe gyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer Live Free or Die Hard yn serennu Bruce Willis.[1] Mae ei gerddoriaeth yn cynnwys ffurfiau fel arswyd (Dracula III: Legacy, Soul’s Midnight, a cherddoriaeth ychwanegol ar gyfer Underworld: Evolution) a chomedi (Funky Monkey a cherddoriaeth ychwanegol ar gyfer Scary Movie II). Darparodd gerddoriaeth ychwanegol ar gyfer sioe deledu WB Glory Days, a sioeau rhwydwaith CBS Cold Case a Close to Home, a'r gyfres Dead Like Me, ar Showtime. Mae Torjussen wedi gweithio ar The Mr. Men a Dive Olly Dive lle derbyniodd enwebiad Daytime Emmy yn 2007 ar gyfer Sgôr Gwreiddiol Gorau.[3]

Mae Torjussen wedi trefnu ac arwain cerddorfa ar gyfer ffilmiau Hellboy, a Terminator 3: Rise of the Machines.[1]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Ceiri Torjussen - Credits - AllMusic". AllMusic. Cyrchwyd 12 June 2015.
  2. Ysbryd Tre'r Ceiri yn LA - Portread o Ceiri Torjussen gan Pwyll ap Siôn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-12
  3. 3.0 3.1 "Finale User Spotlight: The two worlds of composer Ceiri Torjussen - Finale". Finale. Cyrchwyd 12 June 2015.