Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwedd
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio yn Trelew, Yr Ariannin. | |
| Enghraifft o: | cerddorfa |
|---|---|
| Dod i'r brig | 1928 |
| Dechrau/Sefydlu | 1928 |
| Genre | cerddoriaeth glasurol |
| Gwefan | https://www.bbc.co.uk/bbcnow |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/035d99 |
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dal swyddogaeth arbennig iawn fel cerddorfa genedlaethol a darlledu ac yn cael ei chydnabod nid yn unig am safon y perfformiadau ond hefyd am ei phwysigrwydd o fewn ei chymuned ei hun.
Y Gerddorfa yw Cerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, gan gyflwyno cyfres o gyngherddau yn ogystal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Mae'r gerddorfa yn teithio trwy Gymru ac yn rhyngwladol. Mae'n cymryd rhan yn gyson yng nghyngerddau'r Proms y BBC a phob dwy flynedd yng nghystadleuaeth bwysig BBC Canwr y Byd Caerdydd. Darlledir cyngherddau'r Gerddorfa ar BBC Radio 3, ac ar radio a theledu BBC Cymru Wales a BBC 4.
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol y Gerddorfa Archifwyd 2011-10-14 yn y Peiriant Wayback