Côr Rhuthun

Oddi ar Wicipedia
Côr Rhuthun
Enghraifft o'r canlynolcôr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1981 Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Côr Rhuthun yn 1981; fel rhan o Aelwyd yr Urdd, Rhuthun a gweithgareddau 'Urdd 2000'. Roedd gan y côr yn wreiddiol ddau arweinydd: Beryl Lloyd Roberts a Morfydd Vaughan Evans. Daethpwyd a'r arweinyddion at ei gilydd gan drefnydd yr Urdd ar y pryd, sef Robin Llwyd ab Owain. Ar ôl tipyn newidiwyd yr enw i Gôr Ieuenctid Rhuthun ac yna yn syml: Côr Rhuthun a'r Cylch.

Cyhoeddwyd nifer o gryno-ddisgiau gan y côr gan gynnwys efallai yr enwocaf: 'Atgof o'r Sêr' gyda Bryn Terfel yn unawdydd amlwg. Dyma'r côr cyntaf i ganu caneuon poblogaidd gan gantorion modern megis Caryl Parry Jones a Dafydd Iwan; dilynwyd hwy gan eraill megis Côr Llanelli'n canu 'Y Dref Wen'. Roedd eu cyfraniad cyntaf ar LP a recordiwyd gan Gwmni Recordiau Sain yn 1982, sef Aelwydydd ar Dân.

Yn Ionawr 2008 penodwyd y cyfansoddwr Robat Arwyn fel arweinydd (a chyfeilydd) i'r côr yn dilyn marwolaeth Morfydd Vaughan Evans.

Disgograffi[golygu | golygu cod]

  • Aelwydydd ar Dân (ambell gân) (Sain 1982)
  • Chwarae'n Troi'n Chwerw (Sain 1985)
  • Hwylio 'Mlaen (Sain 1987)
  • Mynyddoedd y Meseia (Sain 1991)
  • Wyth ar y Dot (Sain 1994)
  • Llawenydd y Gân (Sain 1997)
  • Atgof o'r Sêr (Sain 2002)
  • Pedair Oed (ambell gân) (Sain 2004)
  • Nadolig Newydd (ambell gân) (Sain 2006)
  • Er Hwylio'r Haul (ambell gân) (Sain 2006)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato