Richard Parry (esgob)

Oddi ar Wicipedia
Richard Parry
Ganwyd1560 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1623 Edit this on Wikidata
Diserth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl Edit this on Wikidata
Cerflun o Richard Parry ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy.

Roedd Richard Parry (1560 - 26 Medi 1623) yn Esgob Llanelwy. Fe'i cofir yn bennaf am iddo gyhoeddi fersiwn diwygiedig o gyfieithiad Cymraeg yr Esgob William Morgan o'r Beibl.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Richard Parry yn 1560 yn fab i John ap Hari, Pwllhalog, Cwm, Sir y Fflint a'i wraig Elen ferch Dafydd ap John, o Llanfair Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun, Sir Ddinbych.

Aeth i Ysgol Westminster ac yna i Eglwys Crist, Rhydychen, un o golegau Prifysgol Rhydychen; graddiodd B.A. ar 5 Chwefror 1584. Tra oedd yn bennaeth ysgol Rhuthun, graddiodd yn M.A. ar 4 Mehefin 1586 ac yn ddiweddarach ar 4 Mawrth 1594, yn B.D.[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Daeth yn brifathro Ysgol Rhuthun, ac yn 1599 yn Ddeon Bangor ar 5 Ebrill 1584. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy ar 30 Rhagfyr 1604. Priododd Gwen ferch John ap Rhys Wyn tua 1598, a chawsant bedwar mab a saith merch.

Cyhoeddodd Parry fersiynau diwygiedig o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1620 a 1621. Er mai ei enw ef oedd wrth y rhain, credir mai ei frawd-yng-nghyfraith John Davies, Mallwyd a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith.

Bu farw yn Niserth ar 26 Medi 1623.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.