Plaid Genedlaethol Cymru
| Enghraifft o: | plaid wleidyddol |
|---|---|
| Cyllideb | cenedlaetholdeb Cymreig, Linguistic nationalism |
| Dechrau/Sefydlu | 5 Awst 1925 |
| Enw brodorol | Plaid Genedlaethol Cymru |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Plaid Genedlaethol Cymru oedd y blaid wleidyddol Gymreig a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Cymru. Sefydlwyd y blaid ar 5 Awst 1925 yng Ngwesty Maes Gwyn, Pwllheli, pan ddaeth Mudiad Cymreig a Byddin Ymreolwyr Cymreig ynghyd. Saunders Lewis, Lewis Valentine, Fred Jones, David Edmund Williams, Moses Griffith a Hugh Robert Jones oedd y chwe sefydlwr.[1] Hugh Robert Jones, teithiwr masnachol o Ddeiniolen a sefydlodd Mudiad Cymreig yng Nghaernarfon ym Medi 1924.
Sefydlwyd y Mudiad Cymreig ym Mhenarth yn Ionawr 1924 gan Saunders Lewis, Ambrose Bebb, a Griffith John Williams a'i wraig, Elizabeth. Ymhlith yr aelodau cynnar yr oedd yr hanesydd Ambrose Bebb a'r llenor Kate Roberts. Ym Mehefin 1930, bu farw Hugh Robert Jones yn 36 mlwydd oed, arweiniwyd y ganmoliaeth gan y Parchedig Lewis Valentine. Gwasanaethwyd gan y Parch Llewelyn Bowyer ac R.O. Williams, J.P. Davies, Ben Owen a'r Athro (Bangor) J.E. Daniel.[2]
Yn 1926 daeth Saunders Lewis yn llywydd cyntaf y blaid ac arosodd yn y swydd tan 1939;[3] ef oedd yn bennaf gyfrifol am gyfeiriad y blaid yn y cyfnod hwn. Bychan oedd ei hapel ar y dechrau, ac yn gyfyngedig i raddau i'r Gymru Gymraeg. Rhoddwyd y pwyslais ar ennill grym trwy'r cynghorau sir gan wrthod ymladd etholiadau seneddol. Roedd agweddau pendefigaidd Saunders yn amhoblogaidd a dechreuodd rhai weld tueddiadau Ffasgaidd yn ei syniadau. Drwgdybiwyd ef ymhellach pan ymunodd â'r Eglwys Babyddol yn 1932.
Newidiwyd yr enw i "Blaid Cymru", a dan lywyddiaeth Gwynfor Evans daeth y blaid yn fwy o ddylanwad ym mywyd gwleidyddol Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Evan Wall, "Y Ddraig Goch yn clywed y delyn Wyddelig: dylanwad cenedlaetholdeb Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru, 1925–1936", Gwerddon 40 (Hydref 2025), t.68
- ↑ "Welsh Gazette". The British Newspaper Archive. 26 Mehefin 1930.
- ↑ J. Graham Jones, "Forming Plaid Cymru, Laying the Foundations, 1923–26", Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 22:4 (1982), tt.435–49
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Darlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’ (recordiad sain), Hanes Plaid Cymru