Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd 2009

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd 2009
Enghraifft o:Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2009 Edit this on Wikidata
LleoliadBae Caerdydd Edit this on Wikidata
Prosesiwn Gŵyl Dewi tu alln i Ganolfan Mileniwm Cymru lle bu'r Eisteddfod dau fis yn hwyrach

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd rhwng Mai 25 a Mai 30 2009.

Dyma oedd yr eildro yn hanes y mudiad i Ganolfan y Mileniwm fod yn ganolbwynt i weithgareddau gyda stondinau ag arddangosfeydd gerllaw a'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn adeilad y Senedd - nad oedd wedi ei adeiladu pan ymwelodd yr Eisteddfod a Chaerdydd ddiwethaf yn 2005.[1]

Cynhaliwyd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bae Caerdydd ar 11 Ebrill 2008.

Roedd y dathlu yn dechrau am 11 y bore yng nghaffi 'Hufen' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda derbyniad i wahoddedigion a ddymunir croesawu'r Eisteddfod i'r brifddinas. I ddilyn, bu ysgolion Cymraeg cynradd Caerdydd yn cymryd rhan mewn perfformiad i groesawu'r Ŵyl yn y Lanfa ym Mae Caerdydd.[2]

Roedd y niferoedd ar gyfer yr wythnos gyfan yn uwch nag Eisteddfod Sir Conwy 2008 - 96,013 o gymharu â 91,785 yn Llandudno.

Ond, o drwch blewyn, methodd Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm a churo Eisteddfod 2005 (yng Nghaerdydd) - ymwelodd 572 yn fwy â honno, 96,585.[3]

Enillwyr

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Atyniadau'r Maes". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  2. "Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2009". BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  3. "Yr Urdd yn cyhoeddi llwyddiant ysgubol". BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  4. "Lleucu - dawn arbennig i gynnal sgwrs". BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  5. "Ennill gyda drama yn ei enw'i hun". BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  6. "Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando". BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  7. "VC". Gwefan Léa Sautin. 2023. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.
  8. "Siarad Cymraeg - i'r genhedlaeth nesaf". =BBC Cymru. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]