Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2022 |
Lleoliad | Dinbych |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 a gynhaliwyd ger tref Dinbych rhwng 30 Mai - 4 Mehefin 2022. Cynhaliwyd yr eisteddfod dwy flynedd wedi'r flwyddyn a fwriadwyd gan i haint Covid-19 arwain at wahardd teithio a chymysgu cymdeithasol ac yn ei lle cynhaliwyd Eisteddfod T, 2020 ac yna Eisteddfod T, 2021 yn ei lle.
Gwelwyd y nifer uchaf erioed yn mynychu'r Eisteddfod, gyda 118,000 yn dod i'r digwyddiad yn ystod yr wythnos. Cafwyd mynediad am ddim i'r Maes a bu tri pafiliwn yno hefyd i roi cyfle i ragor o gystadleuwyr fod ar y llwyfan mawr.[1]
Gŵyl Triban
[golygu | golygu cod]Datblygiad newydd arall yn yr Eisteddfod yn 2022 oedd Gŵyl Triban, a gynhaliwyd ar dridiau ddiwethaf wythnos yr ŵyl (2-4 Mehefin). el rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant roedd arlwy Gŵyl Triban yn gyfle gwych i adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, a dathlu perfformwyr a chaneuon y gorffennol, ac yn blethiad o’r hen a newydd. Ymysg y perfformwyr - oedd i gyd ar y Maes yn y 'Garddorfa' oedd: Cabarela, Tara Bandito yn cael ei hymuno ar lwyfan gan Eden, hefyd Yws Gwynedd, Gwilym, ac Eädyth, a'r cerddor N’Famady Koyuate. Fel rhan o arlwy nostalgia Gŵyl Triban, bu Tecwyn Ifan a Delwyn Siôn yn perfformio cyn i Adwaith ac Eden gloi’r noson.[1]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion[1] yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Rhyng-golegol yn 2020 a 2022.[2]
- Y Gadair - Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, cyn-ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn a myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Prif Lenor Eisteddfod T y llynedd.[1][3]
- Y Fedal Ddrama - Osian Wynn Davies o Lanfairpwll[1]
- Tlws Cyfansoddwr - Shuchen Xie, 12 oed, o Gaerdydd, sef yr ieuengaf erioed i ennill Prif Wobr yr Urdd yn hanes yr Eisteddfod.[1] Roedd yn ddisgybl yng Ngholeg St Ioan. Caerdydd ac yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[4]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Nel Thomas 16 oed o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd oedd wedi cystadlu sawl gwaith yn y gorffennol gyda'i gefaill, Casi.[5]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Medal y Dysgwr - Josh Osborne 24 oed o Poole oedd yn byw yn Abertawe. Cyflwynwyd y fedal i berson 18-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ysbrydolwyd i ddysgu Cymraeg gan ei gariad, Angharad.[6][1]
- Medal Bobi Jones - i berson dan 19 oed sy'n dangos eu hymrwymiad i ddysgu'r iaith. Anna Ng, 18 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd yn astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg, ac roedd yn gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd ei thad yn dod o China a'i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna'r Alban.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod T, 2020
- Eisteddfod T, 2021
- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2022". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Urdd: Ciarán Eynon wrth ei fodd wrth gipio'r Gadair". BBC Cymru. 2 Mehefin 2022.
- ↑ "Eisteddfod: Shuchen Xie, 12, yn ennill y Fedal Gyfansoddi". BBC Cymru. 30 Mai 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwaith Buddugol Prif Seremonïau gwefan yr Urdd
- Crynodeb o'r Eisteddfod ar wefan yr Urdd.
- Eisteddfod yr Urdd 2022: Holl luniau'r wythnos gwefan BBC Cymru
- Rhestr cyn eisteddfodau (hyd 2023) tudalen 6