Eisteddfod T, 2020
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2020 |
Lleoliad | ar-lein |
Eisteddfod T, 2020 yw'r enw a fathwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2020 Yn sgil efaith Covid-19 a'r 'Gofid Mawr' (Covid-19 yng Nghymru), bu gwaharddiadau amrdeithio a chymysgu cymdeithasol a bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd oedd i'w chynnal yn Ninbych. Penderfynioddyr Urdd ar fyr-rybudd, gan bod y gwaith cartref eisoes wedi 'iegflwyno, oedd bwrw ymlaen gyda chymaint o arlwy a chystadlaethau'r Eisteddfod ag oedd bosib ,a'i ddarlledu. Daeth arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 2020 o stiwdio dros dro yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris.
Yn sgil y newid anferthol hwn, cafwyd cystadleuaethau newydd a gwahanol fel rhan o'r eisteddfod gyda chystadleuwyr yn danfon clipiau wedi'u ffilmio gartref i fewn i S4C.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Dwi'n hynod falch bod S4C wedi penderfynu darlledu holl gyffro Eisteddfod T ar y brif sgrin. Mae'r ymateb i Eisteddfod T wedi bod yn wych, gyda dros 4,000 wedi ymgeisio ar yr amrywiaeth o gystadlaethau."[1]
Cynhaliwyd Eisteddfod Sir Ddinbych, yr eisteddfod oedd i'w chynnal yn 2020, maes o law yn 2022.
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Megan Angharad Hunter o Pen-y-groes, Gwynedd oedd yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth yng Nghaerdydd ar y pryd.[2]
- Y Gadair - Osian Wyn Owen o'r Felinheli [3] enillodd hefyd yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.
- Y Fedal Ddrama - Nest Jenkins, o Ledrod ond aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal a Phrifysgol Caerdydd[4]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg -
- Y Fedal Lenyddiaeth - Mared Fflur Jones o Ddolgellau [5]
- Prif Gyfansoddwr - Cai Fôn Davies, Bangor [6]
- Medal y Dysgwr - Rosina Catrin Jones o Gaerdydd[7]
- Medal Bobi Jones -
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Eisteddfod T yn fyw ar y brif sgrin dros wythnos yr Urdd". Gwefan S4C. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Megan Angharad Hunter yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prifardd Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 29 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 27 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prif Lenor Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 28 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 25 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 26 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cân 'Un Ydym Ni' Crëwyd 'Un Ydym Ni' ar gyfer Eisteddfod T 2020
- Cyfansoddiadau Eisteddfod Amgen 2020 Archifwyd 2023-12-14 yn y Peiriant Wayback gwefan Gwasg Carreg Gwalch
- Rhestr cyn eisteddfodau (hyd 2023) tudalen 6