Eisteddfod T, 2021

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod T, 2021
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2021 Edit this on Wikidata
Lleoliadar-lein Edit this on Wikidata
Gwersyll yr Urdd Llangrannog bu'n 'stiwdio' ar gyfer darlledu Eisteddfod T yn 2021

Cynhaliwyd Eisteddfod T, 2021 rhwng 31 Mai - 4 Mehefin 2021. Daeth yn sgîl effaith parhaol Covid-19 a'r 'Gofid Mawr' (Covid-19 yng Nghymru), a'r gwaharddiadau am deithio a chymysgu cymdeithasol bua bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd oedd i'w chynnal yn Ninbych am flwyddyn arall. Yn dilyn llwyddiant menter fyr-rybudd Eisteddfod T, 2020 bwriwyd ymlaen gydag eisteddfod ar-lein a rhithiol arall.

Daeth arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 31 Mai - 4 Mehefin 2021, o Wersyll yr Urdd Llangrannog o fewn cyfyngiadau Covid-19.

Yn sgil y newid anferthol cafwyd cystadleuaethau newydd a gwahanol fel rhan o'r eisteddfod gyda chystadleuwyr yn danfon clipiau wedi eu ffilmio gartref i fewn i S4C. Gweld dros 120,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan mewn 120 cystadleuaeth.

Bu i 12,000 gymryd rhan mewn rhyw fodd boed yn cystadlu, hyfforddwyr, athrawon a’r golygyddion ac i bob cyfeilydd a’r unigolion fu’n gyfrifol am recordio a chofrestru’r gwaith a’r fideos.[1]

Ymysg un o'r cystadlaethau newydd oedd cystadleuaeth creu fideo i gyfryngau cymdeithasol.[2]

Prosiectau Untro[golygu | golygu cod]

Fel rhan o ymdrech i gydweithio gyda chyfyngiadau Covid-19 a hefyd cyfleuoedd y cyfryngau cymdeithasol a'r rhwydwaith gyfryngau Gymraeg, creuwyd tair prosiect untro i adael gwaddol i'r Eisteddfod T.

Prosiect Plethu[golygu | golygu cod]

Fel rhan o Eisteddfod T eleni, mae grwpiau o bobl ifanc ar draws Cymru wedi bod yn cydweithio ac yn arbrofi gyda'r celfyddydau i greu perfformiadau newydd a chyffrous, gan gyfuno arddulliau a diwylliannau gwahanol.[3]

Epilog Eisteddfod T[golygu | golygu cod]

Yn arbennig ar gyfer Eisteddfod T, gwelwyd pump artist cyfoes wedi mynd ati i greu fersiwn newydd o'r Emyn Hwyrol (Nefol Dad Mae Eto'n Nosi), cân fydd yn adnabyddus i rai oedd wedi aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd, ac wedi canu hon cyn mynd i'r gwely.[3]

Bwyd, Bwyd, Bwyd![golygu | golygu cod]

Casgliad o fideos cam wrth gam yng nghwmni Caffi Ffika a Geoff o Gegin Caribî gyda rysetiau ac arddangosfeydd coginio.[3]

Gohirio Eisteddfod corfforol[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Sir Ddinbych, yr eisteddfod oedd i'w chynnal yn 2020 a 2021, maes o law yn 2022.

Enillwyr[golygu | golygu cod]

  • Y Goron - Megan Angharad Hunter o Benygroes Dyffryn Nantlle[4]
  • Y Gadair -
  • Y Fedal Ddrama - Rhiannon Lloyd Williams [5][6]
  • Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg -
  • Y Fedal Lenyddiaeth -
  • Prif Gyfansoddwr - [7]
  • Medal y Dysgwr -
  • Medal Bobi Jones -

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "O'r soffa i sedd y pafiliwn! Eisteddfod T". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  2. "Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth creu fideo i gyfryngau cymdeithasol". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Dyma Eisteddfod i ti, o'r tŷ". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  4. "Megan Angharad Hunter yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 18 Hydref 2021.
  5. "EISTEDDFOD T WINNERS DIGITAL YOUTH FESTIVAL". Wales Arts Review News. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  6. "Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2021". Facebook yr Urdd. 2 Mehefin 2021.
  7. "Gwobrwyo enillydd Medal Gyfansoddi'r Urdd 2020/21". BBC Cymru Fyw. 19 Hydref 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]