Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Tawe, Nedd ac Afan 2003
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2003 |
Lleoliad | Parc Gwledig Margam |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Tawe, Nedd ac Afan 2003 rhwng 26 - 31 Mai 2003 a chynhaliwyd hi ym Mharc Gwledig Margam ger Port Talbot.
Gweithgareddau a rhagbrofion o fewn maes yr Eisteddfod
[golygu | golygu cod]Carreg filltir bwysig yn hanes yr Eisteddfod oedd cynnal y rhagbrofion ar y maes ei hun mewn lleoliadau fel yr Orendy, y Pafiliwn a Phafiliwn S4C. Bydd Castell Margam hefyd yn gartref ysblennydd i'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar Celfyddydau, "Mae'r ffaith fod y cyfan o'r gweithgareddau bron yn digwydd ar yr un lleoliad eleni yn ddatblygiad pwysig yn hanes yr Eisteddfod."[1]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Debbie Anne Williams o Borthmadog oedd yn astudio gradd ymchwil MPhil yn rhan amser ar y pwnc 'Rhyddiaith i Ennill' ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ysgrifennu "i'r darllenydd cyffredin". Roedd newydd ddechrau swydd gyda Menter Iaith Gwynedd fel Swyddog Ieuenctid a'r Gymraeg.[2]
- Y Gadair - Ifan Prys o Landwrog yn ennill am y 3ydd tro gyda cherdd am Ryfel Irac. Graddiodd yn Aberystwyth ac roedd yn dilyn cwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd.[3]
- Y Fedal Ddrama - Luned Emyr o Gaerdydd Enillodd y Fedal yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan ym 1999, ac yn Ngŵyl yr Urdd 2001 (ni bu Eisteddfod gyffredin oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau y flwyddyn honno). Cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu drama fuddugol eleni, monolog o'r enw Ystafell Dywyll, pan oedd ar gwrs wyth mis yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Ebeltoft, yn Nenmarc.[4]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Nia Peris o Ddyffryn Nantlle oedd byw yng Nghaerdydd ers pedair blynedd, am ei chyfrol Cyfarwydd, oedd yn gasgliad o farddoniaeth a straeon byrion.[5]
- Tlws Cyfansoddwr - Angharad Lewis o Bontarddulais ger Abertawe byw ym Mangor ers pedair blynedd gan ddilyn cwrs gradd B.Mus Cerddoriaeth yn y Brifysgol ac wedi dilyn gwrs ymarfer dysgu uwchradd.[6]
- Y Fedal Gelf -
- Medal y Dysgwr - Jack Price, aelod o Adran Coleg Iâl, Cylch Maelor. Roedd yn astudio'r Gymraeg i Lefel A ac am fynd i Brifysgol Aberystwyth a mynd yn gyfieithydd.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Maes godidog". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coroni i awdur y darllennydd cyffredin". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Awdl Irac yn ennill cadair i heddychwr". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coron driphlyg i ferch Medal Ddrama". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Rhyddhad i ferch y Fedal". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Canu clodydd Angharad". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal Tryweryn i Ddysgwr". BBC Cymru. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2023.