Paill
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio

Blaen briger tiwlip gyda nifer o ronynnau o baill

Siot agos o flodyn cactws a'i friger
Powdr sy'n medru bod yn fân neu'n fras ac sy'n cynnwys meicrogametoffytau hadau planhigion, sy'n cynhyrchu'r gametau gwrywaidd ydy paill. Mae gan ronynnau o baill gragen galed sy'n amddiffyn y celloedd sberm yn ystod y broses o symud o'r briger i bistil planhigion sy'n blodeuo neu o'r côn i gôn benywaidd blanhigion gonwydd. Pan fo paill yn glanio ar bistil cydnaws, mae'n egino ac yn cynhyrchu tiwb paill sy'n trosglwyddo'r sberm i ofwl yr ofari. Mae gronynnau paill unigol mor fach mae angen eu chwyddo er mwyn medru eu gweld yn fanwl.